Mae etholiadau canol tymor America yn teimlo’n bwysicach nag arfer am sawl rheswm eleni, yn ôl newyddiadurwraig sy’n byw yn yr Unol Daleithiau.
Bydd canlyniadau’r etholiadau yn awgrymu i ni sut lwyddiant fyddai Donald Trump yn ei gael mewn etholiad arlywyddol, meddai Maxine Hughes.
Mewn rali yn Ohio neithiwr (nos Lun, Tachwedd 8), dywedodd Donald Trump y bydd ganddo gyhoeddiad i’w wneud yn Florida yr wythnos nesaf, a’r awgrym yw y bydd yn sefyll eto yn y ras arlywyddol nesaf yn 2024.
Mae pobol ledled yr Unol Daleithiau wedi bod yn pleidleisio er mwyn penderfynu pa blaid fydd yn rheoli dwy siambr y Gyngres.
Ers dwy flynedd, mae Tŷ’r Cynrychiolwyr, y siambr isaf sy’n cyfateb i Dŷ’r Cyffredin yn San Steffan, a’r Senedd, y siambr uchaf sy’n cyfateb i Dŷ’r Arglwyddi, wedi bod yn nwylo’r Democratiaid.
Fodd bynnag, mae’r rhagolygon yn awgrymu y gallai’r Gweriniaethwyr gipio rheolaeth o Dŷ’r Cynrychiolwyr.
‘Mae’r etholiadau yma yn teimlo ychydig bach yn wahanol’
“Mae’r etholiadau canol tymor wastad yn bwysig iawn, maen nhw o hyd rili yn refferendwm ar yr arlywydd ac os dydy pobol ddim yn hapus efo sut mae’r arlywydd yn rhedeg y wlad, yna maen nhw’n gallu pleidleisio i’r ochr arall,” meddai Maxine Hughes wrth golwg360.
“Mae’r etholiadau yma yn teimlo ychydig bach yn wahanol.
“Maen nhw’n refferendwm ar [yr Arlywydd Joe] Biden, wrth gwrs, ond hefyd fel refferendwm ar Donald Trump a’r pŵer sydd gyda fo, a’r pŵer sy’n parhau o gwmpas mudiad MAGA (Make America Great Again).
“Rydyn ni’n gweld mewn swing states fel Arizona, Ohio, Pennsylvania – llefydd sydd wastad wedi bod yn agos iawn i le wnaeth Biden ennill yn yr etholiad – bod Trump yn cefnogi ymgeiswyr.
“Ar hyn o bryd, mae hi dal rhy agos i weld pwy sy’n mynd i ennill ond mae’n edrych yn agos iawn.
“Maen nhw’n ymgeiswyr sydd wedi curo ymgeiswyr eraill – ymgeiswyr sydd ddim yn cefnogi Donald Trump – i allu rhedeg.
“Os maen nhw wedyn yn ennill, mae hi’n dangos i ni sut bysa Trump yn gallu gwneud mewn etholiad arall.
“Os nad ydy’r ymgeiswyr yn gwneud yn dda, wedyn mae’n awgrymu, efallai, na fyddai Trump yn gallu ennill eto.
“Mae’r wlad yma mor rhanedig, ac rydyn ni’n gweld gwlad lle mae lot o bolareiddio.
“Erbyn hyn, fyswn i’n dweud bod yna ddim tir cyffredin rhwng y ddwy ochr.”
Llygaid y byd ar Donald Trump
Mae llygaid y byd ar yr etholiadau, meddai Maxine Hughes, sydd yn dweud bod hynny’n “reit od” o ystyried mai etholiadau lleol ydyn nhw yn America.
“Fyswn i’n dweud bod yr etholiad yma’n mynd i awgrymu beth sydd am ddigwydd am y ddwy flynedd nesaf, os ydyn ni am weld ymgyrch gan Donald Trump, a hefyd os oes gan Donald Trump gyfle i ennill eto,” meddai.
“… Mae hi’n stori anhygoel, dw i ddim yn gwybod am unrhyw le yn y byd lle rydyn ni wedi gweld stori fel hon ar ôl gymaint sydd wedi digwydd.
“Roeddwn i yn y rali yn eistedd reit o flaen Donald Trump neithiwr pan oedd o’n dweud ei fod o’n mynd i ddweud rhywbeth rili pwysig mewn wythnos yn Florida… wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod beth mae o’n mynd i’w ddweud.
“Maen nhw’n etholiadau sydd wastad wedi bod yn bwysig ond eleni, dw i’n meddwl, mae yna lot o resymau pam eu bod nhw hyd yn oed yn fwy pwysig, efallai.”
Hawliau dynol ac erthyliad sy’n bwysig i bobol ar y chwith yn yr etholiad hwn, wedi i’r Goruchaf Lys wyrdroi achos Roe v. Wade, tra bod mewnfudo yn bwysig i bobol ar y dde, yn enwedig y rheiny sy’n cefnogi Donald Trump.
“I’r ddwy ochr, fyswn i’n dweud mai’r economi ydy’r prif bwnc yn yr etholiad yma,” meddai Maxine Hughes wedyn.
“Mae’r inflation rates yn America yn wael iawn.
“Mae pobol yn dioddef, ac mae costau byw yn fan hyn yn codi a chodi. Maen nhw’n edrych ar yr etholiadau fel rhyw fath o gyfle i wneud rhywbeth am yr economi.
“Mae prisiau petrol fan yma yn codi, ac mae pobol yn flin iawn am hynna.”
‘Agos iawn, iawn’
Fe fydd y canlyniadau’n dechrau cyrraedd dros nos heno (nos Fawrth, Tachwedd 8), neu yn gynnar bore fory (dydd Mercher, Tachwedd 9) amser Cymru.
Ond mae hi’n rhy gynnar i ragweld y canlyniadau, yn ôl Maxine Hughes.
“Mae’r Gweriniaethwyr yn dweud ein bod ni’n mynd i weld ton goch,” meddai.
“Roedd Donald Trump yn dweud neithiwr ein bod ni’n mynd i weld landslide…
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bosib iawn y bydd y Gweriniaethwyr yn cymryd Tŷ’r Cynrychiolwyr, ond dw i’n meddwl bod yna siawns y bydd y Democratiaid yn gallu dal y Senedd.
“Mae hi’n anodd iawn dweud ar hyn o bryd, ond dw i yn meddwl y bydd hi’n agos iawn, iawn.
“Be rydyn ni’n mynd i weld mewn rhai llefydd, os ydyn nhw rhy agos fydd pobol yn gofyn am recounts.
“Fyswn i’n dweud y bydd y canlyniadau cenedlaethol yn dod lawr i grŵp bach o daleithiau, fel Arizona, fel Pennsylvania.
“Mae’n mynd i fod yn noson gyffrous iawn.”