Mae’r graffiti sydd wedi ymddangos yn y Tynal Tywyll ar Lôn Las Ogwen wedi peri i un fam leol ddweud bod y sefyllfa’n gwneud iddi deimlo nad yw hi “eisiau i blant bach fynd trwy’r Tynal”.

Daw sylwadau Angharad Williams o Dregarth yn dilyn nifer o achosion diweddar o graffiti a fandaliaeth yn yr ardal.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Tynal Tywyll ar lwybr Lôn Las Ogwen rhwng Tregarth a Bethesda wedi dioddef graffiti a hefyd fandaliaeth sydd wedi difrodi’r goleuadau yn y twnnel.

Mae hi hefyd yn dweud iddi ddod o hyd i gyffuriau yno, a’i bod hi wedi rhoi gwybod i’r heddlu.

Mae llawer o’r graffiti yn cyfleu negeseuon di-sail ynglŷn â brechlyn Covid-19, ac yn ddiweddar mae wedi cynnwys cyfeiriadau hiliol.

“Weithiau mae ’na petha sy’n gwneud i mi ddim eisiau i blant bach fynd trwy’r tynal,” meddai Angharad Williams wrth golwg360.

“Bocsys o nitrous oxide, balwns, pacedi bach lliwgar, do’n i ddim yn dallt be oedd ynddynt.

“Ond cyffuriau bendant, poteli alcohol wedi malu ar hyd y lôn ac yn y llechi ar hyd yr ochr, wnes i handio’r pethau cyffuriau i’r heddlu.

“Mae wedi bod yn ddistaw yn ddiweddar.”

Dywed fod “rhai o’r pethau am Covid ddim jest yn hurt, ond yn beryg hefyd”.

“Mae yna graffiti hyll a hiliol yn ddiweddar am Iddewon, ac mae gweddill y graffiti yn slwtsh hyll a blêr,” meddai.

“Mae’r tynal yn sefyll am flynyddoedd, a dechreuodd hyn i gyd tair blynedd yn ôl, amser clo.

“Weithiau mae yna bethau sy’n gwneud i mi ddim eisiau i blant bach fynd trwy’r tynal – iaith a lluniau hyll.”

‘Fandaliaeth ddi-hid’

“Mae Lôn Las Ogwen yn llwybr hynod boblogaidd, ac mae teuluoedd o bob oed wedi bod yn falch i allu teithio trwy’r hen dwnnel reilffordd dros y blynyddoedd diweddar,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.

“Mae’n drist iawn clywed am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, a’r hiliaeth yn arbennig.

“Fandaliaeth ddi-hid yw’r graffiti, sy’n creu pryder i ddefnyddwyr y Lôn Las ac ni ddylid ei ddioddef.

“Yn ogystal â’r pryder mae’r graffiti hyll yn ei achosi i drigolion sy’n defnyddio’r llwybr, mae costau glanhau’r graffiti ac atgyweirio difrod yn cymryd adnoddau prin ac amser staff.

“Dyma arian ac amser y gallai’r Cyngor fod yn ei ddefnyddio’n well i gynnal a gwella Lôn Las Ogwen.”

Yn ôl Dafydd Meurig, lleiafrif bach sy’n gwneud y difrod, ond mae’r ymddygiad yn effeithio ar bobol leol ac ymwelwyr.

Ymateb yr heddlu

“Mae graffiti yn drosedd, mae’n gostus cael ei wared ac nid yw heb ddioddefwyr,” meddai’r Arolygydd Arwel Hughes o Heddlu’r Gogledd.

“Gall gael effaith sylweddol ar y rhai sy’n cael eu targedu ac rydym bob amser yn annog pobol i adrodd i ni fel y gallwn ymchwilio.

“Ni fydd y math hwn o droseddu yn cael ei oddef a bydd yn ymdrin ag o yn gadarn, felly byddwn yn annog pobol i fod yn wyliadwrus, riportio troseddau a’n ffonio ni ar 999 os ydyn nhw’n gweld trosedd ar y gweill.”

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau yma, dylid cysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101, neu www.northwales.police.uk gan nodi rhif digwyddiad B132336.