Penny Grice o Gaerfyrddin ydy enillydd cystadleuaeth dylunio het bwced y Mentrau Iaith.
Cafodd y gystadleuaeth i blant a phobol ifanc dan 18 oed ei lansio er mwyn cyd-fynd â Chwpan y Byd, gyda chyfle i ddosbarth yr enillydd ennill set o hetiau bwced.
Bydd dyluniad Penny Grice, sydd ym mlwyddyn 5, yn cael ei argraffu ar hetiau bwced a bydd pawb yn ei dosbarth yn derbyn un.
Ynghyd â hynny, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei gwahodd i wylio sesiwn hyfforddi tîm pêl-droed Cymru yn y gwanwyn.
‘Gwaith penderfynu’
Y gohebydd pêl-droed Sioned Dafydd, y canwr Geraint Løvgreen, a Tim Williams o gwmni Spirit of ’58 yn y Bala, oedd y beirniaid.
Fe wnaeth 5,400 o blant gymryd rhan, a Zakia Johnson o Rydaman, Lili Wen Morgan o Ruthun ac Ifan Midwood o Forfa Nefyn ydy’r tri arall ddaeth i’r brig, a byddan nhw’n derbyn tocyn arnheg o siop Spirit of ’58 yn wobr.
“Rydyn ni wedi cael ein sbwylio gan gymaint o hetiau bwced sy’ wedi cael eu dylunio!” medd Sioned Dafydd.
“Rydyn ni wedi cael bach o waith i benderfynu pa rai oedd y rhai gorau.”
‘Cystadleuaeth safonol’
“Rydyn ni’n hoff iawn o’r lliwiau a geiriau ‘Yma o Hyd’ yn mynd o gwmpas y band canol,” meddai Geraint Løvgreen yn ei feirniadaeth.
“Ac mae’r galon efo bathodyn Cymru yn ei chanol yn wych hefyd.
“Roedd hi’n gystadleuaeth safonol iawn.
“Does yna ddim prinder dylunwyr talentog ifanc yng Nghymru.
“Rydyn ni wrth ein bodd efo’r bedair het.
“Basai pob un ohonyn nhw’n gallu ennill a baswn i’n hapus iawn.”
‘Apelio at blant Cymraeg a di-Gymraeg’
Roedd hi’n “bleser mawr” gweld bod cynifer o blant o bob man yng Nghymru wedi cymryd rhan, yn ôl Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau Menter Iaith Cymru.
“Roedd y gystadleuaeth yn apelio at blant Cymraeg a di-Gymraeg yr un fath,” meddai.
“Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ac mae’r wobr yn apelio hefyd, wrth gwrs!
“Hoffem i’r plant gael cyfle i weld eu hetiau wedi’u harddangos. Maen nhw wir yn haeddu’r clod.”
Bydd y Mentrau Iaith yn cynhyrchu cyfres o fideos gyda mwy o hetiau bwced i ddangos yr amrywiaeth eang o ddyluniadau, ac i ddiolch i’r plant am gymryd rhan.
Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn rhan o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i ddathlu tîm pêl-droed Cymru.