Mae Phil Stead, colofnydd pêl-droed cylchgrawn golwg, yn dweud ei fod e “wedi tynnu allan” o fod yn un o gynrychiolwyr Cymru yn seremoni agoriadol Cwpan y Byd yn Qatar.

Yn ei golofn ddiwethaf, dywedodd ei bod hi’n “anodd credu” y byddai ar ei ffordd i’r twrnament ymhen llai na mis i wylio Cymru, fydd yn cystadlu yn y twrnament am y tro cyntaf ers 1958.

“Mae’n anghywir i ddweud fy mod i wedi bod yn disgwyl am hyn gydol fy mywyd, achos doeddwn i erioed wedi dychmygu’r ffasiwn beth,” meddai.

“Ond mi’r ydw i’n teimlo y bydda i wedi cyrraedd ryw gopa.

“Ar ôl gwylio Caerdydd yn ffeinal Cwpan FA Lloegr, a Chymru yn Euro 2016, dim ond un peth oedd ar ôl i fi weld. A dyma ni.”

Mae’n egluro yn ei golofn iddo dderbyn gwahoddiad i fod yn un o 50 o gefnogwyr fyddai’n cynrychioli Cymru, ac y “bydd camerâu’r byd arnom ni am 17 o eiliadau”.

“Ac rydyn ni wedi derbyn cyfarwyddiadau i sefyll, chwifio baneri a chanu cân.

“Y Pwyllgor Qatari sydd yn dewis y gân yna – does gen i ddim syniad pa un fydd yn cael ei chanu.

“Ond bydd y profiad yn ddifyr a bydd gyda ni docyn i’r gêm agoriadol rhwng Qatar ac Ecwador.”

14 o gemau

“Rydw i wedi archebu tocyn i 14 o gêmau yn Qatar, yn cynnwys gemau Cymru wrth gwrs,” meddai Phil Stead.

“Rydw i’n edrych ymlaen i weld gêmau mawr fel Brasil yn erbyn Serbia, a Ffrainc yn erbyn Denmarc.

“Ond os rhywbeth, mae’r rhai llai amlwg – hipster, fel y byddai rhai yn eu galw nhw – yn fwy deniadol.

“Sut brofiad fydd mynychu gêm rhwng Ghana a Gweriniaeth Corea?

“Pwy fydda i yn gefnogi wrth wylio Siapan a Costa Rica?

“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn gwybod sut brofiad fydd hi i gefnogwyr allan yn Qatar.

“Ni fydd yna grysau Cymru yn llenwi tafarn Wyddelig bob prynhawn, a fydd yr holl awyrgylch ychydig mwy sobr am wn i.

“Ond rydw i’n gwybod pan fydda i yn gweld y ddraig goch yn chwifio cyn ein gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau, fydda i yn teimlo yn emosiynol iawn.

“Fedra i ddim disgwyl.”

Gwylio 15 gêm yn Qatar

Phil Stead

“Rydw i wedi derbyn gwahoddiad i fod un o 50 o gefnogwyr fydd yn cynrychioli Cymru yn y seremoni agoriadol”