Mae Cynghorydd Ceidwadol ar Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi beirniadu’r ymgais i roi Rhyddfraint y Ddinas i Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Fe wnaeth Hugh Jones, sy’n cynrychioli ward Yr Orsedd ac sy’n brif aelod lle ac amgylchedd ac arweinydd Grŵp Ceidwadol y Cyngor, bleidleisio yn erbyn gwneud trefniadau i roi’r anrhydedd ddinesig i gyd-berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam am eu cyfraniad i’r ddinas.

Ar ôl Cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol, lle’r oedd y cynnig yn destun pleidlais er mwyn rhoi’r gair olaf ar y penderfyniad i’r Cyngor llawn, tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan Paul Mullin, ymosodwr Wrecsam, sydd wedi cael cryn sylw ac sy’n cynnwys esgidiau pêl-droed ag arnyn nhw’r slogan ‘**** the Tories’.

Cafodd ei disgrifio gan y Cynghorydd Jones fel “neges o gasineb”, ac fe wnaeth e hefyd feirniadu un o’r cyd-berchnogion am hoffi’r neges ar Instagram.

“Dw i wedi ystyried yr argymhelliad hwn yn eithaf difrifol dros yr wythnosau diwethaf,” meddai.

“Dw i wedi edrych ar natur y rhyddfraint a’r ffaith ei bod yn cael ei dyfarnu i bobol ragorol neu sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i le.

“Dw i’n deall yn llwyr yr angerdd am Glwb Pêl-droed Wrecsam.

“Ond i mi, mae’r amseru a’r gwerthoedd a’r blaenoriaethau’n anghywir.

“Rydyn i’n dyfarnu’r rhyddfraint ar adeg pan fo un o’u prif chwaraewyr wedi cymryd rhan mewn neges o gasineb i ran o’n cymuned, ac mae un o’r perchnogion wedi hoffi neges Instagram yn cynnwys yr un neges o gasineb.

“Mae’n iawn i bobol anghytuno, ond [mae’n fater o] sut rydyn ni’n rheoli hynny a sut rydyn ni’n trin ein gilydd.

“Mae casineb yn ddinistriol lle bynnag y daw.

“Pan ddaw gan bobol flaenllaw, dw i ddim yn credu bod hynny’n bodloni’r gofynion ar gyfer rhyddfraint y bwrdeistref sirol.

“Mae hefyd yn fater o’n gwerthoedd fel Cyngor a bwrdeistref sirol a phwy rydyn ni’n ceisio’u cydnabod fel esiampl yn ein cymdeithas.”

Pobol eraill yn deilwng

Gofynnodd hefyd pa fath o neges fyddai hynny’n ei hanfon i ysgolion a phobol ifanc, cyn rhestru llu o gyrff lleol eraill mae’n teimlo y bydden nhw’r un mor deilwng neu’n fwy teilwng o’r anrhydedd.

Yn eu plith mae’r Venture ym Mharc Caia, Côr y Rhos am godi miloedd o bunnoedd at elusennau, AVOW, sylfaenwyr Moneypenny a gwneuthurwyr y brechlyn Covid-19.

Mae’r Cyngor yn bwriadu dyfarnu statws ‘rhyddfraint y ddinas’ i’r sêr Hollywood am eu dylanwad a Wrecsam ers prynu’r clwb pêl-droed.

Mae’r cynnig yn cydnabod hanes hir a balch y clwb, a dylanwad y ddau berchennog wrth helpu i hyrwyddo Wrecsam ledled y byd.

Yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol, fe wnaeth arweinwyr y gwrthbleidiau – Dana Davies (Llafur) a Marc Jones (Plaid Cymru) – feirniadu’r ffaith fod y cynnig wedi dod gerbron y Bwrdd Gweithredol cyn y Cyngor llawn.

Ond ychwanegodd y Cynghorydd Jones y bu “hir ymaros” am gydnabyddiaeth i’r clwb pêl-droed, gan ychwanegu ei fod “wedi rhoi’r dref ar y map ers degawdau”, gan ganmol gwirfoddolwyr oedd wedi achub y clwb a’i gadw i fynd cyn iddo gael ei brynu gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Pleidleisiodd y Bwrdd Gweithredol, ac eithrio’r Cynghorydd Hugh Jones a’r Cynghorydd Paul Roberts (a bleidleisiodd yn ei erbyn), i’r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor llawn.

Bydd cyfarfod y Cyngor llawn yn cael ei gynnal ar Ragfyr 21.