Y Cymro Nathan Jones yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Southampton.

Mae’r rheolwr 49 oed o Gwm Rhondda wedi gadael Luton ar ôl llofnodi cytundeb tair blynedd a hanner, ac fe fydd yr hyfforddwyr Chris Cohen ac Alan Sheehan yn ymuno ag e.

Taith anodd i Anfield fydd ganddo fe i herio Lerpwl i ddechrau ei gyfnod wrth y llyw, ond fe fydd ganddo fe gyfnod o baratoi wedyn yn ystod Cwpan y Byd.

Wrth ei groesawu, dywed Southampton fod ganddo fe record dda o adeiladu timau sy’n ennill ac o ddatblygu chwaraewyr.

Yn ystod ei gyfnod yn Luton, daeth y clwb o fewn trwch blewyn i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr, ac fe gafodd ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn.

“Dw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn,” meddai.

“Dw i’n gwybod lot fawr am y clwb o hen ddyddiau’r Dell, i ddod yma i St Mary’s, ac mae’n glwb pêl-droed hyfryd.

“Mae llawer o’m teulu’n gefnogwyr Southampton, sydd wir yn help, a dw i’n teimlo’n falch dros ben o fod wedi cael y cyfle, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael dechrau.

“Yn amlwg, ro’n i eisiau rheoli yn yr Uwch Gynghrair, dw i wedi breuddwydio am hynny ers i fi ddod yn hyfforddwr neu reolwr, ond mae’r clwb hwn yn enwedig – oherwydd sut mae’n cael ei redeg, oherwydd y strwythur, oherwydd eu bod nhw’n edrych yn ddyfnach na dim ond canlyniadau – wir yn apelio ata i.”