Bydd Osian Roberts a Malcolm Allen yn ymuno â thîm S4C fel dadansoddwyr yn ystod ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Byddan nhw’n ymuno ag Owain Tudur Jones, fydd yn ddadansoddwr, y cyflwynydd Dylan Ebenezer, y gohebydd Sioned Dafydd, a Nic Parry a Gwennan Harries yn sylwebyddion.
Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd FIFA, gan gychwyn gyda’r ornest yn erbyn yr Unol Daleithiau ar nos Lun, Tachwedd 21 (6 o’r gloch).
“Mae’r tîm yma wedi cyflawni rhywbeth arbennig iawn drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA ac mae Rob Page yn haeddu clod anferthol am hynny,” meddai Osian Roberts, oedd yn aelod allweddol o’r tîm hyfforddi yn Ewro 2016 pan gyrhaeddodd Cymru’r rownd gyn-derfynol.
“Ond mi fydd y chwaraewyr yn benderfynol o ddangos i’r byd beth maen nhw’n gallu gwneud a beth mae cynrychioli eu gwlad yn ei olygu iddyn nhw.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn arw i fod yn Qatar fel rhan o dîm Cwpan y Byd S4C.”
Cwpan y Byd yw’r “llwyfan mae pawb eisiau bod arno”, yn ôl Malcolm Allen, sy’n edrych ymlaen at fynd â’r Gymraeg allan i’r byd.
“Ar ôl dod mor agos i gyrraedd Cwpan y Byd fel chwaraewr, dwi mor falch i fod yno yn 2022, yng nghanol sioe fwyaf y byd,” meddai.
“Dyma’r llwyfan mae pawb eisiau bod arno a dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm S4C a rhoi’r iaith Gymraeg ar y map.
“Mae gen i fydd a hyder yn Rob Page a’r tîm a dwi’n gobeithio gweld yr hogiau yn mynd yr holl ffordd i’r ffeinal.
“Fel Cymro balch, dwi mor gyffrous i fod yn rhan fach o achlysur anferthol yn hanes ein gwlad.”
Rhaglenni arbennig
Bydd modd clywed mwy gan Malcolm Allen ar Wal Goch: Cwpan y Byd 2022, Heno a chyfryngau cymdeithasol Sgorio yn ystod Cwpan y Byd.
Bydd S4C yn troi’r sianel yn goch yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth gyda gwledd o raglenni yn dathlu diwylliant a hanes y bêl gron yng Nghymru.
Ar nos Sul, Tachwedd 13, bydd modd edrych ’nôl ar gyfnod euraid o hanes pêl-droed Cymru yn y rhaglen Bois 58, a chlywed y stori tu ôl i gân wefreiddiol Dafydd Iwan, Yma o Hyd.
Yn Cymru: Pob Cam i Qatar ar nos Wener, Tachwedd 11, bydd cyfle i ail-fyw’r ymgyrch ragbrofol lwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd, tra yn Tîm tu ôl i’r Tîm nos Sul, Tachwedd 20, byddwn ni’n cael mewnwelediad ecsgliwsif i’r tîm yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru sydd yn galluogi Rob Page a charfan Cymru i berfformio ar y cae.
Bydd Yws Gwynedd a Mari Lovgreen yn cyfuno pêl-droed, cerddoriaeth byw a digon o chwerthin yn Wal Goch: Cwpan y Byd 2022 bob nos Wener yn ystod Cwpan y Byd, ac mi fydd tîm Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o Qatar yn ystod y bencampwriaeth gyda chyfres o adroddiadau arbennig.
Ar noswyl y gêm fawr rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau, bydd dathliad o iaith a diwylliant Cymru mewn cyngerdd arbennig yn Efrog Newydd, Cyngerdd Cymru i’r Byd, ar nos Sul, Tachwedd 20 yn Sony Hall, Times Square, fydd yn cynnwys cyfraniadau gan Ioan Gruffudd, Bryn Terfel a llu o artistiaid eraill.
Bydd yr holl raglenni am dîm Cymru ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Bydd cyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon yn rhannu cynnwys dyddiol ar draws Facebook, Twitter ac Instagram yn ystod Cwpan y Byd, tra bydd Sioned Dafydd yn cyflwyno rhaglenni rhagolwg cyn pob gêm.
Bydd darllediadau o gemau Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, ar ran S4C.
Gemau Cymru a manylion darlledu
Nos Lun, Tachwedd 21 – Yr Unol Daleithiau v Cymru – 6.00yh
Nos Wener, Tachwedd 25 – Cymru v Iran – 9.15yb
Nos Fawrth, Tachwedd 29 – Cymru v Lloegr – 6.00yh
Carfan Cymru
Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United).
Ben Davies (Spurs), Ben Cabango (Abertawe), Tom Lockyer (Luton), Joe Rodon (Rennes, ar fenthyg o Spurs), Chris Mepham (Bournemouth), Ethan Ampadu (Spezia, ar fenthyg o Chelsea), Chris Gunter (AFC Wimbledon), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley).
Sorba Thomas (Huddersfield), Joe Allen (Abertawe), Matthew Smith (MK Dons), Dylan Levitt (Dundee Utd), Harry Wilson (Fulham), Joe Morrell (Portsmouth), Jonny Williams (Swindon), Aaron Ramsey (Nice), Rubin Colwill (Caerdydd).
Gareth Bale (Los Angeles FC), Kieffer Moore (Bournemouth), Mark Harris (Caerdydd), Brennan Johnson (Nottingham Forest), Dan James (Fulham, ar fenthyg o Leeds).
Dadansoddiad: Alun Rhys Chivers
Mae’n deg dweud mai dyma’r garfan roedd y rhan fwyaf ohonom yn ei disgwyl ar y cyfan, ac na fyddai llawer iawn o aeliau wedi’u codi. Dyw Rob Page ddim yn un sy’n arbrofi ryw lawer, ac mae’n ffyddlon i’r chwaraewyr sydd wedi arwain Cymru i’r fan lle maen nhw erbyn hyn – yn wynebu eu Cwpan Byd cyntaf ers 1958.
Dyw’r pwll o chwaraewyr sydd ar gael yma ddim yn un mawr, wrth reswm, ond mae’r ffaith ein bod ni’n trafod y chwaraewyr sydd wedi’u hepgor yn fwy na’r rhai sydd wedi’u dewis yn arwydd o gryfder y chwaraewyr sydd wedi colli allan ar le ar yr awyren i Qatar. Roedd Rob Page yn sôn neithiwr am “sgyrsiau anodd” gyda rhai chwaraewyr, ac mae’n siŵr bod Tyler Roberts a Rabbi Matondo dan sylw yma gydag anafiadau a diffyg munudau ar y cae wedi gweithio yn eu herbyn nhw.
Y peth pwysica’ i Rob Page nawr, heb amheuaeth, yw fod y 26 yn aros yn holliach. Roedd rhai yn sôn am Luke Harris a Jordan James, y naill yn 17 oed a’r llall yn 18 oed. Maen nhw wedi’u cyhoeddi fel chwaraewyr wrth gefn. Mae traddodiad hir o wneud hyn ar gyfer Cwpan y Byd, felly wnaiff hynny ddim niwed i’r ddau wrth iddyn nhw gael y profiad o gael bod yn amgylchfyd y garfan yn ystod y twrnament. Doedd dim amheuaeth y byddai Gareth Bale a Joe Allen yn ennill eu llefydd ar yr awyren. Ydy, mae’n risg oherwydd does dim dal ar hyn o bryd am faint fydd Allen ar y cae ar ôl bod allan i Abertawe ers cyhyd. A dydyn ni byth yn hollol siŵr fod Bale am fod yn holliach nac ar ei orau, ac fe fu’r un yn wir am Aaron Ramsey ar wahanol adegau dros y blynyddoedd. Ond mae’r triawd yma am fod yn allweddol i obeithion Cymru unwaith eto ac roedd yn rhaid iddyn nhw fynd doed a ddêl.
Un y bu cryn drafod yn ei gylch e, ond un y daeth y cyfle’n rhy fuan iddo fe efallai, yw Oli Cooper. Dw i wedi ei weld e dipyn y tymor hwn yn Stadiwm Swansea.com, ac mae’n sicr yn chwaraewr addawol sy’n datblygu’n gyflym ac sy’n cyfrannu’n gyson yng nghrys yr Elyrch. Efallai y bydd e’n teimlo’n anlwcus o fod wedi colli allan ar y llefydd wrth gefn sydd wedi mynd i Harris a James, ond prin y byddai wedi cyrraedd y cae beth bynnnag gyda’r cyfoeth o ddoniau sydd gan Rob Page ym mlaen y cae. Fe ddaw cyfle Cooper eto ar y llwyfan rhyngwladol, dw i’n sicr o hynny, ac mae nifer o chwaraewyr eraill fyddai wedi teimlo’n fwy siomedig na Cooper pe baen nhw wedi colli’r cyfle hanesyddol yma. Mae Wes Burns wedi bod ar y cyrion yn ystod Cynghrair y Cenhedloedd. A dyna Nathan Broadhead wedyn, a hwnnw wedi bod mor anlwcus o gael anaf ar yr adeg anghywir – er mai cael a chael fyddai hi wedi bod iddo yntau beth bynnag.
Mae’n siŵr y gallen ni gylchdroi mewn trafodaeth am oriau, ond Rob Page sydd wedi cael y gair olaf. Yn nwylo’r chwaraewyr nawr mae tynged Cymru wrth i lygaid y byd fod arnyn nhw am yr wythnosau nesaf. Does ond gobeithio nawr y gallwn ni floeddio ar ôl y tair gêm grŵp ein bod ni “yma o hyd”.