Mae prosiect newydd yn bwriadu defnyddio Cwpan y Byd fel cyfle i hyrwyddo llesiant merched a’u dealltwriaeth o’u cylchdro misol trwy greadigrwydd a’r celfyddydau.

Mae prosiect Cylchdro yn rhedeg dan Ynys Blastig, sef comisiwn creadigol Cyngor Gwynedd i leihau’r defnydd o blastig.

Daeth yr artistiaid sy’n rhan o Ynys Blastig at ei gilydd i wneud cais am gyllid Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn dathlu llwyddiant pêl-droed ac ymgysylltu gyda chymunedau.

Roedd Iola Ynyr a Sioned Medi yn gwybod eu bod nhw eisiau canolbwyntio ar bêl-droed merched ond ar ôl ymchwilio y daeth y syniad i ganolbwyntio ar 28 diwrnod Cwpan y Byd, sef hyd cylchdro misol ‘arferol’ merched.

Byddan nhw’n mynd ati i greu adnoddau i sbarduno trafodaeth, meithrin ymwybyddiaeth a grymuso merched i chwarae pêl-droed, yn ogystal â hel straeon am brofiadau merched am bêl-droed a’r mislif.

Heriau wrth chwarae pêl-droed

Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Merched y Felinheli er mwyn deall yr heriau sy’n wynebu merched sy’n chwarae pêl-droed, yn ogystal â rhagfarn yn gyffredinol.

“Pan mae merched yn chwarae, yn aml iawn does yna ddim toiled ac o siarad efo Clwb Pêl-droed Merched y Felinheli, hyd yn oed os oes yna doiled, does yna ddim bin ar gyfer pads a tampons,” meddai Iola Ynyr wrth golwg360.

“Dw i ond wedi bod mewn un sesiwn gyda’r clwb hyd yn hyn, ond be’ ro’n i’n cael o’r sesiwn yna oedd bod y merched yn hyderus, ac yn hyderus o’u cyrff.

“Roedden nhw mor barod i drafod fel eu bod nhw wir yn mwynhau’r cyfle i leisio’r rhwystredigaeth.

“Roedd Llio Emyr sy’n eu hyfforddi nhw… roedd ei negeseuon hi mor galonogol drwy’r amser i’w hannog nhw i gyfathrebu a lleisio eu hanghenion.

“Roedden nhw’n grymuso ei gilydd.”

Dathlu, nid cuddio

Yn ddiweddar, mae rhai clybiau pêl-droed merched, gan gynnwys Abertawe, wedi bod yn newid lliw eu cit trwy gyfnewid siorts gwyn am liw mwy tywyll i dawelu ofnau’r chwaraewyr.

“Mae tîm merched y Felinheli wedi newid eu siorts o ddu i goch sydd efallai’n achosi ychydig o bryder,” meddai wedyn.

“Ond dw i wedi gwrando ar bodlediadau gan chwaraewyr proffesiynol yn siarad am sut mae’r ofn dy fod am ddechrau dy fislif yn dylanwadu’r ffordd ti’n chwarae.

“Pam ddylen ni boeni?

“Ydi o’n ddiwedd y byd bod gwaed yn dangos?

“Dw i’n meddwl bod angen codi ymwybyddiaeth mai gwaed y cylchdro yma sy’n caniatáu i bob un ohonom ni fod yma.

“Dylai o gael ei ddathlu, dim ei guddio.”

Codi ymwybyddiaeth ymysg bechgyn

Mae Iola Ynyr yn gobeithio y bydd y prosiect hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymysg bechgyn.

“Roedd rhai ohonyn nhw’n sôn am amser chwarae pan maen nhw yn yr ysgol bod hogiau yn dweud eu bod nhw ddim am chwarae pêl-droed efo nhw, neu’n dweud merched yn erbyn hogiau,” meddai.

“Roedd rhai sylwadau fel “ewch yn ôl i’r gegin a’r llestri”.

“Wnaeth un ferch dweud, “dwi’n meddwl mai ond unwaith y flwyddyn mae hogiau’n meddwl rydan ni’n cael mislif”.

“Dydi o ddim yn dderbyniol yn gymdeithasol i ni siarad amdano fo.

“Mae yna gymaint o dabŵ, ond mae’n rhaid i ni nid yn unig rhannu’r wybodaeth ymysg merched a chreu gofodau diogel i ferched fod yn agored, ond bod hynny hefyd yn digwydd mewn ffordd ddiogel, gyfrifol a pharchus efo hogiau.”

Adnoddau digidol

Bydd y prosiect yn creu adnoddau digidol yn ddyddiol dros y 28 diwrnod, gan greu neges y dydd ar Instagram.

Iola Ynyr fydd yn gyfrifol am redeg gweithdai gyda’r clwb er mwyn clywed eu profiadau a’u hannog i feddwl am sut mae’r mislif yn effeithio arnyn nhw.

Trwy gasglu eu straeon nhw ac eraill, mae hi’n gobeithio defnyddio dyfyniadau er mwyn sbarduno trafodaeth gyda negeseuon wedi’u dylunio gan yr artist Sioned Medi.

Bydd pob neges ar gael wedyn i’w troi’n bosteri ar gyfer ysgolion a phwy bynnag arall sydd eisiau eu derbyn nhw.

Bydd y ffotograffydd Kristina Banholzer hefyd yn tynnu lluniau o’r tîm.

“Byddwn ni’n creu maniffesto hefyd ac yn rhannu hwn efo ysgolion a phwy bynnag sydd eisiau herio rhagfarn at ferched ac i godi ymwybyddiaeth am y mislif a phêl-droed,” meddai Iola Ynyr.

“Mis o weithgaredd ydi hwn, ond bydd yna waddol.

“Mi fydd y rhain ar gael i bawb tu hwnt i’r prosiect.”

Mae criw Cylchdro yn annog unrhyw un sy’n chwarae pêl-droed ac yn cael mislif i gysylltu drwy Instagram i rannu eu profiadau. Gall fod yn hollol ddienw.

Galw am sicrwydd y bydd mynediad i gynnyrch mislif am ddim yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith

Bydd Heledd Fychan yn arwain dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 9)