Fe fydd Louis Rees-Zammit yn chwarae yn safle’r cefnwr i dîm rygbi Cymru yn erbyn yr Ariannin yng Nghaerdydd yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn (Tachwedd 12).

Mae’r gic gyntaf am 5:30yp.

Mae modd gwylio’r ornest ar Amazon Prime, gyda’r uchafbwyntiau ar S4C am 8:30yh.

Fe fydd Alex Cuthbert yn dychwelyd i’r asgell wedi anaf, tra bod Gareth Anscombe yn dychwelyd i safle’r maswr.

Mae Dillon Lewis yn cymryd lle Tomas Francis fel prop ac mae Dan Lydiate wedi cael ei ddewis yn flaenasgellwr yn lle Tommy Reffell.

Does dim lle yn y garfan o 23 ar gyfer Tomas Francis nac Alun Wyn Jones.

Fe fydd Cymru yn gobeithio am ymateb yn erbyn y Pumas ar ôl colli o 55-23 yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf.

Anafiadau

Wrth drafod y garfan, datgelodd Wayne Pivac fod rhai chwaraewyr wedi dioddef anafiadau yn ystod sesiynau hyfforddi’r wythnos hon.

“Fe wnaeth Dillon yn dda yn Ne Affrica,” meddai.

“Mae Dillon a Dan Lydiate wedi hyfforddi’n dda.

“Mae yna rai newidiadau o ran y fainc.

“Mae yna rai o’r bechgyn fyddwn ni eisiau edrych arnyn nhw ar hyd y gystadleuaeth felly yn achos Nicky Smith a Rhodri Jones dyna’n sicr beth roedden ni eisiau ei wneud ar gyfer y cwpl o gemau cyntaf.”


Cymru: 15. Louis Rees-Zammit, 14. Alex Cuthbert, 13. George North, 12. Nick Tompkins, 11. Rio Dyer, 10. Gareth Anscombe, 9. Tomos Williams, 1. Gareth Thomas, 2. Ken Owens, 3. Dillon Lewis, 4. Will Rowlands, 5. Adam Beard, 6. Dan Lydiate, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau.

Eilyddion: 16. Ryan Elias, 17. Rhodri Jones, 18. Sam Wainwright, 19. Ben Carter, 20. Jac Morgan, 21. Kieran Hardy, 22. Rhys Priestland, 23. Owen Watkin.

Yr Ariannin: 15. Juan Cruz Mallia, 14. Mateo Carreras, 13. Matias Moroni, 12. Jeronimo De La Fuente, 11. Emiliano Boffelli, 10. Santiago Carreras, 9. Gonzalo Bertranou, 1. Thomas Gallo, 2. Julian Montoya (capt), 3. Francisco Gomez Kodela, 4. Matias Alemanno, 5. Tomas Lavanini, 6. Juan Martin Gonzalez, 7. Marcos Kremer, 8. Pablo Matera.

Eilyddion: 16. Ignacio Ruiz, 17. Nahuel Tetaz Chaparro, 18. Eduardo Bello, 19. Lucas Paulos, 20. Facundo Isa, 21. Elisio Morales, 22. Tomas Albornoz, 23. Matias Orlando.

Côr y Penrhyn

“Profiad gwefreiddiol” Côr y Penrhyn wrth gael canu cyn gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Ariannin

Lowri Larsen

Bydd y côr o Fethesda yn un o’r corau fydd yn canu ar y cae cyn y gêm ddydd Sadwrn (Tachwedd 12)