Fydd “dim newid ffocws” i Ben Cabango yn dilyn ei alwad i garfan bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar, ac mae’n mynnu bod ei sylw wedi’i hoelio am y tro ar gêm olaf Abertawe cyn dechrau’r gystadleuaeth.
Bydd yr Elyrch yn teithio i Huddersfield y penwythnos hwn, ddyddiau’n unig ar ôl i Rob Page gyhoeddi ei garfan ar gyfer Cwpan Byd cyntaf Cymru ers 1958.
Hefyd yng ngharfan Cymru mae chwaraewr canol cae Abertawe, Joe Allen.
“Dyw’r ffocws ddim yn newid i fi,” meddai Ben Cabango.
“Yr holl ffordd, mae’r ffocws wedi bod ar berfformio i Abertawe a gweithio mor galed â phosib i fi a’r tîm.
“Mae angen i ni orffen darn bach yma’r tymor gyda buddugoliaeth, achos mae’r 12 neu 13 gêm ddiwethaf wedi ein gweld ni’n perfformio’n dda iawn.
“Dyw’r tair neu bedair gêm ddiwethaf ddim wedi gweld y canlyniadau rydyn ni eu heisiau, ond rydyn ni eisiau gwneud yn iawn am hynny ddydd Sadwrn yn Huddersfield.
“Rydyn ni’n hyderus, dw i’n meddwl bo chi’n gallu gweld hynny yn ein perfformiadau ni, ac mae’r canlyniadau yn y deg gêm ddiwethaf a mwy wedi cefnogi hynny.
“Rydyn ni wedi bod yn un o’r timau sy’n perfformio orau yn y Bencampwriaeth dros y cyfnod hwn, ac mae hynny’n dangos beth allwn ni ei wneud.
“Yr her nawr yw bod yn ddiflino a dal ati.”