Syniad pobol ifanc Caernarfon a’r cyffiniau oedd creu murlun o Gareth Bale ar un o waliau’r dref.

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd oedd yn gyfrifol am drefnu’r peintio, ac yn ôl un o weithwyr y gwasanaeth yn Arfon, mae hi’n bwysig bod pobol yr ardal yn gweld bod yr ieuenctid yn “gwneud pethau da” yn lleol.

Mae’r murlun, sy’n dangos y pêl-droediwr â’i ddwylo’n creu siâp calon o amgylch bathodyn Cymru, yn un o nifer o furluniau sydd wedi ymddangos ledled Cymru i ddathlu’r ffaith bod Cymru ar fin dechrau eu taith yng Nghwpan y Byd.

Er mai cynnyrch cydweithio rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd yw’r murlun yng Nghaernarfon, mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn brysur yn trefnu bod murluniau o chwaraewyr yn cael eu peintio yn eu bröydd hefyd.

Wrth siarad â golwg360, dywed Barry Alan Williams, gweithiwr ieuenctid yn Arfon, mai “un o egwyddorion y Gwasanaeth Ieuenctid ydi mai llais pobol ifanc ydi’r [llais] pwysicaf”.

Mae’r criw yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn Bontnewydd ger Caernarfon, ac yn eistedd lawr i gael sgwrs efo’r bobol ifanc a gwrando ar eu syniadau.

“Os nad ydyn ni’n rhoi llais i bobol ifanc dw i ddim yn meddwl bod y bobol ifanc yn cael llawer o gyfleoedd eraill i bwysleisio eu llais, i roi eu opinions, [dweud] be maen nhw eisiau,” eglura Barry Alan Williams.

“Rydyn ni yma i weithio i’n bobol ifanc a gwneud yn siŵr bod nhw’n cael eu clywed a chael eu gweld.”

“Pobl ifanc yn cael ychydig o bad press

Yn ôl Barry Alan Williams, mae pobol ifanc yn cael “ychydig o bad press, yn enwedig yng Nghaernarfon”, yn ddiweddar.

“[Dw i’n] meddwl bod o’n bwysig bod pobol yr ardal yn gweld bod pobol ifanc yn gallu gwneud pethau da a bod yna bobol ifanc da yn yr ardal.

“Mae yna broblemau wedi bod yn yr ardal, ond mae yna broblemau wedi bod erioed. Efallai [bod] mwy rŵan na be sydd wedi bod o blaen. Dw i’m yn gwybod.

“Mae yna doriadau [ariannol] wedi bod yn y gwasanaethau ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf.

“Dw i’m yn gwybod os ydi hynny wedi cyfrannu tuag ato fo.”

Cafodd y murlun ei wneud ar y cyd â’r arlunydd Andy Birch, ac mae pobol ifanc y fro yn ymfalchïo yn eu Cymreictod, meddai Barry Alan Williams.

“[Mae’n] beth da rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”

Diolch i’r rhai sydd wedi helpu  

Hoffai Barry “bwysleisio bod eisiau rhoi diolch i’r heddlu, dim jyst y murlun yma mae’r heddlu wedi ariannu, fe wnaethon ni i wneud pencampwriaethau FIFA yn y galeri wythnos yna – mae’r heddlu o hyd yn rhoi pres tuag at brosiectau rydyn ni’n eu gwneud.

“Mae PCSO Julie Brodhead wedi bod yn gweithio efo ni o’r dechrau.

“Roedd abusive graffiti wedi cael ei roi ar y wal, ac roedd hi’n keen bod y murlun yn mynd ar y wal yna, i nadu pobl ifanc rhag rhoi mwy o abusive graffiti.

“Gobeithio y gwneith hynny weithio.

“Hefyd hoffwn ddiolch i gynghorwyr lleol gan gynnwys Dewi Jones, ac i berchennog y tŷ.”