Mae Joe Allen yn dweud ei fod e’n gobeithio bod yn holliach i herio’r Unol Daleithiau yng ngêm agoriadol tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Chwe niwrnod yn unig sydd cyn i dîm Rob Page herio’r Unol Daleithiau yn eu gêm gyntaf yng Ngrŵp B ddydd Llun (Tachwedd 21), ond dydy’r chwaraewr canol cae ddim wedi chwarae ers Medi 17 ar ôl anafu llinyn y gâr.
Wrth gyhoeddi’r garfan, dywedodd rheolwr Cymru ei fod e’n gobeithio y gallai Allen chwarae rhyw ran yn y twrnament, gyda Chymru hefyd yn herio Lloegr ac Iran yn eu grŵp..
Dydy Cymru ddim wedi chwarae yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac mae’r Cymro Cymraeg wedi bod yn aelod allweddol o’r garfan wrth iddyn nhw gymhwyso.
“Dwi’n gobeithio bod yn ffit ar gyfer y gêm gyntaf,” meddai wrth i’r garfan ymgynnull yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg.
“Does dim llawer o amser, ond mae hon yn wythnos bwysig i mi.
“Mae’n gwella, diolch byth.
“Dwi wedi bod yn trio cael fy hun yn ffit ar gyfer Cwpan y Byd.
“Rydw i wir eisiau profi fy ffitrwydd.
“Bydd yn rhaid i ni weld sut aiff yr wythnos hon, ond rwy’n teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus na fydd yn ormod o broblem.”