Mae Aaron Ramsey yn dweud bod tîm pêl-droed Cymru’n awyddus i ail-greu’r llwyddiant gawson nhw yn Ewro 2016, wrth iddyn nhw deithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.

Cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol chwe blynedd yn ôl, cyn colli yn erbyn Portiwgal.

Dydyn nhw ddim wedi cymhwyso ar gyfer twrnament rhyngwladol mwya’r byd ers 1958, ond maen nhw bellach wedi cymhwyso ar gyfer tair cystadleuaeth yn olynol, ar ôl Ewro 2016 ac Ewro 2020 y llynedd.

Byddan nhw’n cystadlu yng Ngrŵp B yn erbyn yr Unol Daleithiau, Lloegr ac Iran, ac maen nhw ymhlith y ffefrynnau i gymhwyso trwy’r grŵp.

Serch hynny, mae’r chwaraewyr yn deall maint y gamp maen nhw eisoes wedi’i chyflawni wrth sicrhau eu lle ar yr awyren, yn ôl y chwaraewr canol cae dylanwadol.

“64 mlynedd, dyw hi ddim yn hawdd cymhwyso ar ei chyfer ac mae’n anhygoel ein bod ni wedi gwneud hynny,” meddai.

“Gallwch chi deimlo’r wefr o gwmpas y lle.

“I bob Cymro, mae yna wefr lwyr ar hyn o bryd, felly gobeithio y gallwn ni fynd allan yno a gwneud yn dda, a gobeithio y cawn ni stori debyg i 2016.

“Rydyn ni’n amlwg ond yn mynd i ganolbwyntio ar y gêm gyntaf, ond rydyn ni eisiau cael allan o’r grŵp ac yna, pêl-droed yn y rowndiau olaf gall unrhyw beth ddigwydd fel rydyn ni i gyd yn gwybod.

“Ond rydyn ni’n gwybod fod y gêm gyntaf yn bwysig dros ben.”

Y gwallt yn ôl yn felyn

Mae lliw gwallt chwaraewyr yn cael cryn dipyn o sylw adeg cystadlaethau rhyngwladol mawr, a dydy 2022 ddim yn wahanol.

Roedd Aaron Ramsey yn y penawdau yn 2016 am liwio’i wallt yn felyn, ac mae’r lliw wedi dychwelyd ar gyfer y daith i Qatar.

A yw’n teimlo bod y lliw am ddod â lwc iddo fe a’r chwaraewyr eraill?

“Ro’n i jyst yn ffansïo newid bach,” meddai.

“Roedd e’n cwympo ma’s felly ro’n i’n meddwl y bydden i’n ei wneud e nawr cyn bo fi’n methu’i wneud e rhagor.

“Fel tîm, rydyn ni wedi cario hynny ymlaen, felly rydyn ni’n hollol wrth ein boddau i fod yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen nawr.”