Bydd Josh Adams yn dychwelyd i chwarae yn erbyn Georgia yn nhrydedd gêm Cymru yng Ngemau’r Hydref eleni.

Methodd yr asgellwr y ddwy gêm gyntaf yn erbyn Seland Newydd a’r Ariannin yn sgil anaf.

Bydd Alex Cuthbert yn ymuno ag e ar yr asgell arall ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn (Tachwedd 19), a bydd Louis Rees-Zammit yn chwarae fel cefnwr eto.

Josh Macleod fydd yn dechrau fel rhif 8, gan ennill ei gap cyntaf, a bydd Jac Morgan, a ddaeth i’r cae fel eilydd yn ystod y gêm yn erbyn yr Ariannin, yn dechrau fel blaenasgellwr ochr dywyll.

Ar ôl ymddangos ddwywaith fel eilydd, bydd Owen Watkin yn dechrau yn y canol gyda George North.

Mae Dafydd Jenkins a Rhys Davies, dau chwaraewr sydd heb chwarae dros eu gwlad eto, wedi cael eu galw i’r garfan yn sgil anafiadau i Will Rowlands a Dan Lydiate, a bydd Dafydd Jenkins ar y fainc ddydd Sadwrn.

Bydd Dane Blacker yn gobeithio ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc hefyd.

‘Pwysig dechrau’n dda’

Wrth drafod ei ddewis, dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac bod Josh Macleod yn chwaraewr sydd wedi bod yn “anffodus iawn” yn y gorffennol.

“Rydyn ni wedi bod eisiau ei ddefnyddio ar ambell achlysur, felly tri chynnig i Gymro,” meddai.

“Mae’n dod â lot o egni, mae’n gryf iawn dros y bêl, ac, ar y cyd â Jac Morgan, gobeithio y bydd honno’n rhan gref o’n gêm ni dros y penwythnos.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei weld yn mynd ar y lefel hon, a gweld y cryfder corfforol sydd ganddo.

“Mae asgwrn cefn y tîm yma. Y presennol sy’n bwysig, mae gennym ni gêm i’w chwarae yn erbyn Georgia ac mae’n rhaid i ni fod yn llwyddiannus.

“Ond mae gennym ein llygaid ar y gêm yn erbyn Awstralia hefyd.

“Mae Georgia yn dîm fydd ddim yn annhebyg i’r Ariannin o ran chwarae tua’r blaen, maen nhw’n gryf iawn yn y blaen.

“Rydyn ni angen adeiladu ar y perfformiad yn erbyn yr Ariannin, bod yn lot fwy clinigol gyda’r bêl.

“Rydyn ni wedi herio’r hogiau eto, a dw i’n meddwl mai’r ymateb fydd yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano dros y penwythnos.

“I ni, dechrau’n dda sy’n bwysig – yn y ddwy gêm ddiwethaf rydyn ni wedi rhoi pwyntiau i’r gwrthwynebwyr yn fuan yn y gêm – felly mae disgyblaeth yn gynnar am fod yn bwysig ni.”


Cymru: 15. Louis Rees-Zammit, 14. Alex Cuthbert, 13. George North, 12. Owen Watkin, 11. Josh Adams, 10. Rhys Priestland, 9. Tomos Williams, 1. Gareth Thomas, 2. Ken Owens, 3. Dillon Lewis, 4. Ben Carter, 5. Adam Beard, 6. Jac Morgan, 7. Justin Tipuric (Capten), 8. Josh Macleod

Eilyddion: 16. Bradley Roberts, 17. Rhodri Jones, 18. Sam Wainwright, 19. Dafydd Jenkins, 20. Taulupe Faletau, 21. Dane Blacker, 22. Sam Costelow, 23. Leigh Halfpenny

  • Bydd y gic gyntaf am 1yp dydd Sadwrn, Tachwedd 19 yn fyw ar Prime Video, gyda’r uchafbwyntiau ar S4C.