I gyd-fynd â Chwpan y Byd a phoblogrwydd y gân ‘Yma o Hyd’, mae drymiwr Dafydd Iwan wedi cael creu drwm arbennig.

Bydd Dafydd Iwan yn mynd i Qatar, ac er na fydd gweddill y band yn mynd yno, mae’r drymiwr Deian Elfryn yn gobeithio y bydd y drwm newydd yn hyrwyddo’r gân a’r iaith.

Geraint Frowen a Rhys Thomas o gwmni Tarian ym Mhont-y-clun sy’n gyfrifol am greu’r drwm, sydd yr un lliw â hetiau bwced Cymru ac yn cynnwys geiriau ‘Yma o Hyd’.

Gobaith Deian Elfryn, sy’n byw ym Methel ger Caernarfon, yw y bydd y cynnwrf dros yr iaith a chanu Cymraeg yn parhau ymhell wedi Cwpan y Byd.

“Gan fod Dafydd [Iwan] yn mynd i Qatar a bod ‘Yma o Hyd yn masif’ rŵan i wneud efo’r pêl-droed, fe gaethon ni’r syniad – be am i ni wneud drwm newydd efo lliwiau’r bucket hat arno fo a sgrifennu ‘Yma o Hyd’ yn mynd rownd y drwm ei hun,” meddai Deian Elfryn wrth golwg360.

Deian Elfryn efo’r drwm

“Mae’n hyrwyddo Dafydd, Cwpan y Byd, Cymru, fi, a Tarian eu hunain.”

“Fel roedd Dafydd yn dweud wrthym ni, ers iddo fo ganu yn y stadiwm, yn enwedig yr ail waith adeg gêm Wcráin, roedd o jyst yn gweld bod yr iaith Gymraeg, canu yn y Gymraeg yn dod â phawb at ei gilydd – rhwng y timau pêl-droed, pawb yng Nghymru.

“Gweld pawb yn canu’r gân, a phlant ifanc iawn yn gwybod y geiriau ac yn canu’r gân… Mae o’n dod â phawb yn un.

“Mae’n briliant, ac mae o’n neis cael y geiriau ‘Yma o Hyd’ ar y drwm dw i’n ei ddefnyddio i chwarae i Dafydd.”

Deian Elfryn sy’n drymio i Dafydd Iwan ers mis Mawrth eleni, gan gymryd lle y diweddar Charlie Britton.

“Mae’n fraint i fi gymryd ei le fo i ddechrau, heb sôn am be sy’n digwydd rŵan,” meddai.

“Gaethon ni gig amazing yn yr Eisteddfod, rydyn ni wedi bod yn lawr ym Merthyr, Llandysul…

“Mae pawb yn ffans o Dafydd Iwan beth bynnag, pawb yn canu’r geiriau, ond munud mae ‘Yma o Hyd’ yn dechrau mae o’n mynd i lefel arall.”

O Amsterdam i Qatar

Cafodd y drwm newydd ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar long rhwng Rotterdam a Hull, ar un o deithiau cwmni Elfyn Thomas o Gaergybi.

Ymysg yr arlwy ar daith ‘Pawb a’i Fam i Amsterdam’ ddechrau’r mis, roedd Dafydd Iwan, Bwncath, Candelas a Mei Gwynedd.

“Roedd o’n brofiad tan roedden ni’n chwarae ac roedd y llong mewn storm,” meddai Deian Elfryn.

“Roedd o’n od bod un dec cyfan o’r llong wedi cael ei bwcio allan i’r Cymry fwy neu lai, a phwy bynnag arall oedd eisiau dod mewn, roedden nhw’n rhydd i wneud. Roedd o’n bizarre!”

Y gobaith oedd y byddai band Dafydd Iwan yn cael mynd ar daith i Qatar, ond doedd dim posib trefnu hynny, a bydd y canwr yn mynd ar ei ben ei hun er mwyn perfformio i gefnogwyr Cymru yno.

“Doedd o ddim eisiau mynd ar ben ei hun jyst efo gitâr felly rydyn ni wedi recordio backing tracks caneuon yn fyw iddo fo gael eu defnyddio allan yn fan yna,” eglura Deian Elfryn.

Mae Dafydd Iwan ymysg sawl artist o Gymru fydd yn teithio i Qatar ddydd Sul (Tachwedd 20), ddiwrnod cyn i Cymru herio’r Unol Daleithiau.

Y Cymry sy’n adeiladu dryms

Sian Williams

“Rydym ni wedi cael lot o ddiddordeb gan ddrymwyr Cymreig sy’n anfon negeseuon fel: ‘Ni ‘di bod yn aros am gwmni Cymreig sy’n adeiladu dryms!’”