Mae artist drill o Benygroes yn dweud ei fod e wedi’i synnu o weld yr ymateb sydd wedi bod i’w gân ‘O Hyd’ i ddathlu tîm pêl-droed Cymru’n cyrraedd Cwpan y Byd.
Roedd Sage Todz yn un o’r perfformwyr wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gynnal digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 15) i ffarwelio â’r garfan wrth iddyn nhw adael Cymru am Qatar.
Bydd tîm Rob Page yn cystadlu yng Ngrŵp B yn erbyn yr Unol Daleithiau, Lloegr ac Iran ar ôl cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Yn yr wythnosau a’r misoedd cyn y gystadleuaeth, mae Yma O Hyd wedi dod yn anthem answyddogol ar raddfa na welwyd o’r blaen, fel ei bod hi bellach yn gân swyddogol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae’r fersiwn newydd gan Sage Todz yn rhan o bartneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’r gân yn dechrau gyda sampl o’r gân wreiddiol o 1983.
Ond mae’n mynd yn ei blaen at rap gan Sage Todz, sy’n dweud “Dani yma. On the way to the top of game, ar y ffordd i dop y byd. Motsh gen i am awgrymiadau. Mae’r wlad ei hun yn fach. Ond mae’r ddraig yn pwyso tunnell”.
🎤 “Da ni yma, yma! On the way to the top of the game” #ArBenYByd | #TogetherStronger pic.twitter.com/8gWc1YTvut
— Wales 🏴 (@Cymru) November 15, 2022
Ymhlith y dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw i wylio’r tîm yn ymarfer mewn sesiwn agored, ac i glywed gan rai o’r chwaraewyr, roedd plant ysgol o sawl ardal.
⚽️Taith Cwpan y Byd/World Cup School Tour⚽️@MistarUrdd di 🏃🏃🏃♂️🏃♂️ o Ysgol i'r Stadiwm i sesiwn hyfforddi @Cymru ⚽️⚽️🏴🏴 #TimCymru22 https://t.co/8XFdKIS3uY
— Chwaraeon yr Urdd (@chwaraeonyrurdd) November 15, 2022
Plant Blwyddyn 5 a 6 yn gyffrous i ddymuno pob lwc a diolch i dîm Cymru cyn iddynt adael am #QatarWorldCup2022 #ArBenYByd #YmaOHyd Year 5 and 6 are excited to take part in the Cymru Cwpan y Byd Send-off ⚽️ 🏴 🏳️🌈 pic.twitter.com/71d3BO1aBr
— Ysgol Mynydd Bychan (@mynyddbychan) November 15, 2022
‘Rydan ni yna i guro’
“Mae’n crazy,” meddai Sage Todz wrth golwg360 am lwyddiant ei gân.
“Mae’n anhygoel jyst gweld sut mae pawb yn enjoio’r gân.
“O’n i ddim yn disgwyl o o gwbl.
“Dwi’n fwy na hapus efo’r ymateb.
“Dwi’n speechless, achos hyd yn oed heddiw, dw i’n gweld y plant efo gymaint o egni a jyst yn mynd yn wyllt dros y gân. Fedra’i ddim gofyn am ddim mwy.”
Ond faint o lwyddiant mae Sage Todz yn credu gaiff Cymru yn Qatar?
“Curo!” meddai, wrth broffwydo pa mor bell fyddan nhw’n mynd yn y twrnament.
“That’s what we’re there for. Rydan ni yna i guro.”
A beth am neges i dîm Cymru?
“Mae’n anhygoel gweld sut mae pawb yn enjoio’r gân. Dwi’n fwy na hapus efo’r gân, dwi’n speechless. ‘Dan ni’n mynd yna i guro Cwpan y Byd, that’s what we’re there for!”🏆🏴⚽️ @SageTodz pic.twitter.com/7o277cYjL5
— Alun Rhys Chivers 🏴 (@alunrhyschivers) November 15, 2022