Bydd datblygiad ffilmiau Cymraeg yn derbyn hwb ariannol o £180,000 gan Lywodraeth Cymru.

Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yn y Senedd nos Fercher (Tachwedd 16), fe wnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gyhoeddi y bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu doniau a syniadau ym maes ffilmiau Cymraeg hefyd.

Bydd y cyllid, sydd wedi’i roi fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn cael ei roi drwy Ffilm Cymru, meddai Dawn Bowden, ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell.

Wrth gyhoeddi’r cyllid ychwanegol, dywedodd Dawn Bowden, mai S4C yw “un o’n hasedau mwyaf wrth rannu popeth sy’n anhygoel ac unigryw am Gymru”.

“Gwta un mis ar ddeg yn ôl, fe gyhoeddon ni ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru ac S4C,” meddai.

“Mae’n enghraifft wych o’n gwaith partneriaeth yng Nghymru, i gyflawni ein huchelgeisiau i ddatblygu’r sector creadigol, ac i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r arian hwn yn gyfraniad pellach tuag at yr uchelgeisiau hynny.

“Mae darlledwyr yn gyfranwyr hanfodol at dwf ein diwydiannau creadigol ac economi Cymru, mae cynnal datblygiad cynnwys yng Nghymru gan ein cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth.

“Wrth gydweithio gydag S4C a Ffilm Cymru, rydym yn ymdrechu i sicrhau twf economaidd, datblygu talent amrywiol, datblygu proffil a phortread o Gymru ac, wrth gwrs, hyrwyddo ein hiaith.”

‘Rhan annatod o Gymru’

Bydd y gronfa newydd yn “chwarae rhan bwysig” wrth gryfhau’r iaith, meddai Cefin Campbell, ac yn gam tuag at sicrhau ei bod hi’n cael ei defnyddio bob dydd, mewn cartrefi, ar y teledu ac ar-lein.

“Mae S4C yn rhan annatod o Gymru a’n hiaith,” meddai.

“Mae’r cyfoeth o gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan S4C yn rhan hanfodol o’r cyfryngau yng Nghymru, gan sicrhau bod cynnwys o safon byd eang sy’n cwmpasu drama, chwaraeon, ffilmiau a chynnwys plant yn cael ei ddarparu i bobol o bob oed, ledled Cymru a thu hwnt.”

‘Gweithio drwy’r Gymraeg’

“Mae gynnon ni draddodiad storïol cryf yng Nghymru,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“Mae llwyddiant diweddar drama a gomisiynwyd gan S4C megis Yr Amgueddfa, Dal y Mellt ac Y Golau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, wedi dangos bod gwir awydd cynnwys gwreiddiol ac adloniant Cymraeg.

“Nod S4C yw adeiladu ar hyn a dod â straeon o Gymru, sy’n creu ymdeimlad o berthyn â’n cynulleidfaoedd yng Nghymru, a thu hwnt, i’r sgrin fawr.

“Wrth inni ddathlu pen-blwydd S4C yn 40 oed, rydym nid yn unig yn rhoi platfform newydd i’r Gymraeg ond yn galluogi’r genhedlaeth nesaf o grewyr cynnwys i weithio yn y Gymraeg.”