Bydd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn dychwelyd ddydd Sadwrn (Hydref 19), gyda chystadlu brwd o fore gwyn tan nos yn Sir Benfro.
Abergwaun fydd cartref yr eisteddfod eleni, ac mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen at gael ei chynnal heb gyfyngiadau am y tro cyntaf ers 2019.
Cafodd yr eisteddfod ei chynnal ym Mhontrhydfendigaid y llynedd, ond fe wnaeth cyfyngiadau Covid-19 effeithio rywfaint ar y trefniadau.
Mae Pwyllgor Gwaith Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro wedi bod wrthi’n paratoi ers blwyddyn a hanner, ac mae yna gyffro o wybod y bydd y cyfan yn dod ynghyd mewn ychydig o ddyddiau, yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
“Bydd hi’n neis gweld y cwbl wedi dod at ei gilydd a bod y gwaith i gyd wedi bod yn werth e wedyn, gobeithio!” meddai Delun Evans wrth golwg360.
“Mae’r Eisteddfod yn dechrau am 10 y bore, ac mae llond diwrnod a nos o gystadlu brwd.
“Bydd hi’n neis gweld pobol yn ôl ar lwyfan fel normal, bydden i’n dweud, fel oedd pethau cyn Covid.
“Bydd Llywydd y Diwrnod, sef Siân Griffiths, yn gwneud anerchiad am 4 o’r gloch ac wedyn, am 6:30 bydd seremoni’r Cadeirio a’r Coroni – bydd honno’n uchafbwynt.
“Wedyn bydd cystadlaethau’r nos, cystadleuaeth y côr ar ddiwedd y nos, a gobeithio cael Côr Cymru – côr mawr o’r corau bach i gyd yn canu gyda’i gilydd unwaith eto ar ddiwedd y noson, sy’n draddodiad yn yr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc.
“Doedd ddim cystadleuaeth côr i’w chael llynedd oherwydd cyfyngiadau Covid, felly eleni fydd y flwyddyn gyntaf i hwnna fod yn ôl.
“Roedd hi yn anodd llynedd, gorfod bod yn ofalus gyda nifer cystadleuwyr a nifer y gynulleidfa, ond mae popeth yn ôl i’r arfer eleni. Rydyn ni’n gyffrous iawn am hynny.”
‘Elfen o Sir Benfro’ yn y gwobrau
Tomos Lewis, athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd, sy’n gyfrifol am greu’r Gadair, a’r gof Eifion Thomas o Ddinas, Sir Benfro sydd wedi dylunio a chreu’r Goron.
“Roedd e’n dipyn o fraint i wneud y Gadair yn enwedig gan taw Sir Benfro sydd yn cynnal ac yn gwesteio Eisteddfod Cymru eleni,” meddai Tomos Lewis, sy’n byw yn Llanglydwen ac sy’n is-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro eleni hefyd, wrth golwg360.
“Roedd e’n dipyn o brofiad, dipyn o her ond roedd e’n rywbeth dw i wedi enjoio bod wrthi’n ei wneud.
“Roeddwn i mo’yn gwneud yn siŵr bod elfen o Sir Benfro i’r Gadair, felly penderfynais i’n diwedd fynd am Gofeb Waldo Williams fel ysbrydoliaeth i siâp y Gadair.
“Yn amlwg, Waldo Williams, mae’n un o feirdd enwocaf Sir Benfro a Chymru, ac roeddwn i mo’yn rhyw fath o elfen fel yna i fod yn berthnasol i’r Gadair, yn enwedig gan mai Cadair ar gyfer y gerdd yw hi.
“Fe wnes i edrych ar y siâp a thrio efelychu’r siâp yng nghefn y Gadair.”
Mae Tomos Lewis wedi bod wrthi’n creu’r Gadair, sydd wedi cael ei noddi gan Chwarel ac Olew Trefigin, ers tua chanol mis Medi, a derw ydy’r pren ar ei chyfer.
“Gan fod e’n bren sydd wastad yn edrych yn ddeniadol yn y ffordd mae’n cael ei ddefnyddio i gelfi, a bod e’n bren caled,” meddai.
“Fi wedi gorffen e wedyn gyda chŵyr gwenyn i drio cael y shine yna ac iddo fe edrych yn ddeniadol.
“Elfen arall o Sir Benfro, mae clustog arni sydd wedi cael ei wneud o garthen Melin Tregwynt, ac mae rheina yn lliwiau’r Sir – sef glas a melyn.
Delme Harris, Llywydd y Sir, sydd wedi noddi’r deunydd, ac mae carthen Melin Tregwynt wedi cael ei defnyddio i greu clustog i ddal y Goron, sydd wedi’i noddi gan MDS Distribution Limited, hefyd.