Mae’r Eisteddfod yn chwilio am ferched y ddawns flodau pan aeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Aberdâr yn 1956.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan y rhai fu’n cymryd rhan yn seremonïau’r Orsedd 66 o flynyddoedd yn ôl.

Gan berfformio yn yr awyr agored i groesawu aelodau newydd i’r Orsedd ac ar brif lwyfan yr ŵyl i ddathlu camp enillwyr y Gadair a’r Goron, roedd y merched yn rhan o seremonïau lliwgar yr Orsedd, fu’n rhan annatod o’r Eisteddfod ers degawdau.

Roedd y merched wyth i ddeg oed wedi’u gwisgo mewn ffrogiau gwyrdd ac yn cario tusw o flodau.

Byddai tîm yr Eisteddfod sy’n gweithio ar ŵyl a phrosiect 2024 wrth eu boddau’n clywed gan ferched a gymerodd ran yn seremonïau ar lwyfan y Pafiliwn.

“Mae blynyddoedd lawer ers i ni ddod â’r Eisteddfod i ardal Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni’n gwybod ein bod ni wedi colli llawer iawn o’r rheini fu’n rhan o’r ŵyl a’r trefnu nôl yn 1956,” meddai’r Prif Weithredwr Betsan Moses.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni gael hyd i rai o’r merched a threfnu aduniad yn lleol dros y misoedd nesaf. Erbyn hyn bydd y merched tua 74-76 oed, a gobeithio y bydd rhai ohonyn nhw’n awyddus i’n cyfarfod ni a rhannu eu hatgofion ac unrhyw luniau teuluol sydd ganddyn nhw o’r cyfnod.

“Felly, os oeddech chi’n un o ferched y ddawns flodau fu’n rhan o’r seremonïau, cysylltwch. Anfonwch e-bost at gwyb@eisteddfod.cymru neu ffoniwch 0845 4090 900 er mwyn i ni fynd ati i drefnu aduniad hyfryd ar gyfer y merched ar ôl yr holl flynyddoedd.”