Bydd Siop Swapio yn yr Hen Gwrt yng Nghaernarfon nos Fawrth, Ionawr 10 i godi arian at yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymdrech yw hyn gan Ferched y Wawr i gefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe fydd yn gyfle i ferched Caernarfon o bob oed gymdeithasu â’i gilydd, gyda phaned neu lymaid ar werth.

Y syniad yw y bydd pawb yn cyfrannu pedair eitem a dewis pedair eitem, ac fe fydd Rhiannon James, un o’r trefnwyr, yn derbyn yr eitemau ymlaen llaw cyn y digwyddiad.

Bydd sgarffiau, esgidiau ac ategolion sydd mewn cyflwr da yn cael eu derbyn, ac mae pob aelod o Ferched y Wawr Caernarfon wedi cael dau docyn gwerth £5 i’w gwerthu.

“Mae bob tref sydd yn ddalgylch Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd efo targedau,” meddai Rhiannon James wrth golwg360.

“Mae Caernarfon wedi cael targed o £30,000. Tuag at y targed yma mae o’n mynd.

“Pwyllgor Apêl Caernarfon fydd yn cael yr arian. Mae’n ffordd hwyliog o godi arian.

“Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn cael hwyl ac yn cymdeithasu.”

Merched o bob oed

Wrth sôn am bwysigrwydd y digwyddiad, dywed Rhiannon James fod y digwyddiad yn “ffordd o ailgylchu a lleihau gwastraff” ac o sicrhau bod merched o bob oed yn cymdeithasu â’i gilydd.

“Rydym wedi gwerthu tocynnau i ferched fengach,” meddai.

“Rydym yn targedu nhw hefyd.

“Rydym wedi rhoi ychydig o dicedi i grŵp Gwawr.

“Mae o’n ffordd o gael cenedlaethau gwahanol o ferched at ei gilydd i gymdeithasu.

“Mae o’n drawsgenedlaethol.”

Dylai unrhyw un sy’n awyddus i gyfrannu ffonio Rhiannon James ar 07787755673 neu gysylltu dros e-bost: rhiannon.jones4@btinternet.com