Bydd gwaith ffotograffydd o Wynedd sy’n dogfennu hanes chwarelwyr y gogledd yn cael ei ddangos mewn arddangosfa yn Efrog Newydd.
Dangos sut beth ydy gweithio mewn chwarel ydy pwrpas y gyfres ‘Chwarelwyr’ gan Carwyn Rhys Jones, fydd yn cael eu harddangos Amgueddfa Slate Valley fis Mai nesaf.
Roedd y ffotograffydd, sy’n byw yn Llanllyfni, yn awyddus i gofnodi hanes y chwarelwyr, a hithau’n grefft sy’n “marw allan”.
Cyn dechrau ar brosiect y chwarelwyr, buodd Carwyn yn gweithio ar gyfres o luniau a ffilm fer dan y teitl ‘Tirwedd’, oedd yn edrych ar sut mae diwydiant yn y gogledd wedi newid tirwedd naturiol y wlad.
“Fe wnes i feddwl bysa fo’n grêt dogfennu’r chwarelwyr ei hunain, a’i bod hi mor bwysig ein bod ni’n dogfennu treftadaeth a hanes ni’r Cymry,” meddai Carwyn Rhys Jones wrth golwg360.
“Y rheswm wnes i’r prosiect, oedd fy mod i’n teimlo bod chwarelwyr y dyddiau yma yn marw allan.
“Mae dau allan o’r pump wnes i dynnu eu lluniau wedi marw yn anffodus.
“Mae’n dda bod fi’n gallu dogfennu eu hanes nhw neu bysa fo di cael ei golli am byth.
“Dw i’n meddwl bod o’n hanfodol dogfennu prosiectau bach fel hun.”
Treftadaeth Gymreig America
Bydd Carwyn Rhys Jones yn mynd ar daith i Efrog Newydd gyda’r lluniau, ac mae hi’n braf gweld y gwaith yn mynd i rywle lle mae pobol yn gwerthfawrogi treftadaeth Cymru, meddai.
“Mae’r Cymry wedi bod yn ddylanwadol iawn yn y wlad,” meddai am yr Unol Daleithiau.
“Mae un trydydd o’r Decleration of Independence yn dod o gefndir Cymraeg.
“Roedd un o’r barnwyr cyntaf yn America o Gymru.
“Mae llawer o Gymry wedi symud i America ac mae nifer [o lefydd] ag enwau Cymraeg.
“Fe wnaeth [y prosiect] ddechrau yn Amgueddfa [Lechi] Llanberis, mynd trwy Gymru wedyn – aeth o i Abertawe, Sir Benfro, mae o’ yn Nhywyn ar hyn o bryd – a mis Mai dw i’n cael mynd draw i Efrog Newydd efo’r gwaith.”
Prosiectau cymunedol
Mae gyrfa Carwyn Rhys Jones wedi bod yn datblygu ers iddo fynd i’r brifysgol i Fanceinion i astudio ffotograffiaeth, a phrif ganolbwynt ei waith yw tynnu lluniau o brosiectau cymunedol.
“Ar ôl yr un am chwarelwyr, fe wnes i wneud un am Covid yn Wrecsam, am fywyd dan glo gan gyfweld gweithwyr hanfodol, tynnu eu lluniau nhw a gweld sut mae bywyd i weithio efo Covid.
“Wnes i un arall efo Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam am gymunedau gwahanol sy’n byw yno, eu perthynas nhw efo’r heddlu a sut oedden nhw eisiau’r gorau i’r dref.
“Penwythnos nesaf mae gennyf arddangosfa am chefnogwyr Wrecsam AFC.
“Dydy pêl-droed ddim yn gweithio heb gefnogwyr a dwi’n meddwl bod o’n bwysig dogfennu straeon nhw.
“Dw i’n meddwl bod bob un person efo stori i’w dweud.
“Dw i’n meddwl bod o’n cymryd amser i glywed eu llais nhw.”
- Bydd ‘Up The Town’, arddangosfa ffotograffiaeth am bêl-droed Wrecsam, i’w gweld o Dachwedd 19 yn Amgueddfa Wrecsam.