Mae aelod o grŵp artistiaid Môn yn dweud eu bod nhw am “drio cwrdd yn amlach” ar ôl cyfnod hir o fethu gwneud hynny o ganlyniad i Covid-19.
Mae arddangosfa grŵp Artistiaid Môn yn Oriel Ger y Fenai yn mynd rhagddi yn Llanfairpwll hyd at Dachwedd 27.
Mae Oriel Ger y Fenai yn arddangos gwaith nifer o artistiaid Gogledd Cymru, ac mae’r arddangosfeydd yn newid bob mis.
Yn ôl Nesta Eluned sydd ar y pwyllgor, roedd grŵp artistiaid Môn yn arfer cwrdd un waith y mis tu allan i Langefni.
“Fel arfer roedd siaradwr bob mis,” meddai wrth golwg360.
“Roedd cymuned o artistiaid yn cael cyfle i gwrdd â’i gilydd.
“Mae’r grŵp am drio cwrdd yn amlach rŵan.”
Yn ôl Nesta Eluned, mae cyfarfodydd misol y grŵp wedi darfod ers tro.
“Mae pobol wedi bod yn rhy nerfus i ddod at ei gilydd mewn lle bach, lle cyfyng,” meddai.
“Yr unig beth sydd gynnon ni rŵan ydi’r arddangosfeydd yma.”
Un o’r prif heriau yn ôl Nesta Eluned yw bod cael cyfle i arddangos gwaith mor anodd i gael, ac felly mae hi’n dweud bod hwn yn gyfle gwych i’r artistiaid.
‘Hyder ac ysbrydoliaeth’
Mae Gill Brown, un aelod newydd o’r grŵp, wedi bod yn siarad â golwg360, gan ddweud bod y grŵp wedi rhoi “hyder ac ysbrydoliaeth” iddi.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n “gwneud celf o ryw fath ers yn hogan fach, yn potsian hefo crayons, dillad i ddolis ac yn y blaen”.
O’r fan honno, aeth yn ei blaen i astudio Celf ar gyfer Lefel O a Lefel A yn yr ysgol yn Birmingham, ac mae hi’n cydnabod cyfraniad ei hathrawes, Miss Moffat.
“Dw i ddim yn artist proffesiynol, er dw i wedi cael hyfforddiant mewn dau goleg celf ac wedi canolbwyntio ar grochenwaith,” meddai.
“Mi dreuliais flwyddyn yng Ngholeg Celf Sir Gaerloyw, wedyn tair blynedd yng Ngholeg Celf Gorllewin Surrey [Farnham], lle wnes i arbenigo mewn gwaith cerameg.
“Dw i wedi ymddiddori mewn gwaith celf o bob math ers hynny, ond heb roi fawr o amser i ymarfer tan yn ddiweddar.
“Mae bod yn aelod o grŵp dosbarth byw Caernarfon wedi rhoi lot o hyder ac ysbrydoliaeth i fi.
“Braf bod ymysg pobol hefo gwahanol steils o weithio.
“Felly diolch iddynt am fy mherswadio i arddangos hefo grŵp Môn!”
Dywed fod celf, beth bynnag yw’r cyfrwng, yn fodd i ddarganfod pethau newydd am y byd gweledol.
“Mae celf yr Argraffyddion wastad wedi apelio ati,” meddai.
“Rhai o’m ffefrynnau yw Gwilym Pritchard, Gwen John, Emil Nolde a Vuillard.”