Mae’r actor Mark Flanagan, sy’n chwarae’r cymeriad Jinx yn Pobol y Cwm, yn dweud mai’r opera sebon yw’r “gateway drug” i bopeth arall mae S4C yn ei gynhyrchu.
Dywedodd S4C wrth golwg360 ym mis Mai taw cyfnod cynhyrchu o naw mis fyddai gan y rhaglen, ond y byddai’n parhau i gael ei darlledu drwy gydol y flwyddyn gyfan.
Dim ond tair pennod o Pobol y Cwm yr wythnos sydd yn cael eu darlledu ers mis Tachwedd y llynedd.
Costau ychwanegol oherwydd Covid oedd y prif reswm am y penderfyniad, yn ôl S4C, oedd yn dweud ar y pryd fod “nifer o bethau i’w hystyried a’u cytuno”.
Roedd y materion hynny’n cynnwys “beth yw effaith Covid ar y drefn cynhyrchu o Ionawr ymlaen, costau ychwanegol sy’n deillio o gynhyrchu dan drefniadau Covid [a] deisyfiad S4C i gael cynnwys digidol/ar-lein dan faner Pobol y Cwm”.
Mae angen hefyd “ystyried sut mae costau diweddaru offer technegol i gyd yn bwydo mewn i’r broses”.
“Popeth arall o’n i’n gwylio yn dod ar gefn” Pobol y Cwm
Dywed Mark Flanagan fod S4C, sydd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, yn bwysig fel sianel erioed.
“Yn tyfu fyny, o’n i’n arfer gwylio Pobol y Cwm bob nos Sul efo’r teulu, ac roedd popeth arall o’n i’n gwylio yn dod ar gefn hynny.
“Felly i fi, Pobol y Cwm oedd y gateway drug i bopeth arall roedd S4C yn ei gynhyrchu.
“Dw i’n siŵr bod Pobol y Cwm wedi gwasanaethu’r sianel yn dda dros y blynyddoedd, ac yn dal i wneud.”
Yn sgil cwtogi’r cyfnod cynhyrchu, mae’r actorion yn cael pedwar mis i ffwrdd o’r ffilmio bob blwyddyn.
Dim ond 150 o benodau sy’n cael eu cynhyrchu’r flwyddyn rŵan, ac mae tair pennod bob wythnos yn lle pump.
“Mae’n siom bod llai o ddrama a’r S4C yn sgil y peth,” meddai Mark Flanagan, sy’n dweud bod “unrhyw beth yn bosib” pan ddaw i gynyddu oriau darlledu’r opera sebon eto.
“Pwy a ŵyr be’ ddigwyddith yn y dyfodol?”
‘Pobol o gefndiroedd eang yn gwylio Pobol y Cwm’
Yn ôl Mark Flanagan, mae gan yr opera sebon “gynulleidfa eang”.
“Dw i’n cyfarfod gymaint o ffans o ddydd i ddydd, ac mae o’n agoriad llygaid,” meddai.
“Mae pobol o gefndiroedd eang yn gwylio Pobol y Cwm.
“Neshi gyfarfod dyn o’r Almaen ger Dusseldorf yn yr Eisteddfod oedd wedi dysgu Cymraeg fel hobi tra’n gwylio Pobol y Cwm. Oedd o’n hollol rugl!!
“Mae’r actorion yn eitha’ ffodus, fel wynebau cyfarwydd, rydan ni’n cyfarfod pobol debyg drwy’r adeg – pobol o wledydd estron sy’n ymddiddori yn ein diwylliant.
“Tydi’r bobol yma byth yn ymddangos mewn unrhyw census, neu ystadegau, neu gofnodion swyddogol.
“Fel arfer, yr actorion ydi’r unig rai sy’n ymwybodol ohonyn nhw.
“Difyr iawn ydi’r adegau yn y stafell werdd lle mae’r cast yn rhannu straeon o ffans gyda hanesion arbennig.”
Manteisio ar amser i ffwrdd o’r set
Gyda llai o amser ar y set, tybed sut mae Mark Flanagan yn treulio’i amser hamdden?
“Mae genna’i lot fawr o waith i’w wneud ar y tŷ, felly dwi’n cymryd mantais ar yr amser rhydd i wneud y gwaith fy hun,” meddai.
“Mae Dad yn adeiladwr yng Nghaernarfon – shout-out i M. Flanagan Building Contractors – a dw i wedi pigo fyny ambell i beth ganddo dros y blynyddoedd.
“Dw i’n gwybod bod gan Emily Tucker, sy’n chwarae Sioned, fusnes ffitrwydd llwyddiannus, fydd hynna yn cadw hi’n brysur.
“Fydd Rhys ap Hywel efo’i ddwylo yn y pridd, gan ei fod o’n arddwr ffanatical, ac mae Mark sy’n chwarae Matthew ar y ffordd i Gwpan y Byd.”
“Dim gwirionedd” fod Pobol y Cwm yn dod i ben
Cyfarfod Zoom i drafod dyfodol ‘Pobol y Cwm’