Mae un o aelodau Côr y Penrhyn ym Methesda yn edrych ymlaen at y “profiad gwefreiddiol” o ganu ar gae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 12).
Byddan nhw’n un o’r corau fydd yn canu ar y cae gerbron torf enfawr cyn y gêm yn erbyn yr Ariannin.
Mae’r côr wedi canu o flaen Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar bedwar achlysur yn y gorffennol, a byddan nhw’n canu y tro hwn efo Côr Meibion Dyffryn Aman, Côr Meibion Aber Valley a Chôr Meibion Eschoir, gyda chyfanswm o hyd at 158 o gantorion yn cyd-ganu.
“Mae o’n wefreiddiol o brofiad bob tro,” meddai Alun Davies, sy’n aelod o Gôr y Penrhyn, wrth golwg360.
“Mae o’n brofiad anhygoel i bob un o hogiau’r côr gael canu ar y cae, yn enwedig pan mae o’n dod i ganu’r anthem.
“Mae o’n rywbeth reit emosiynol ein bod ni’n medru sefyll ar y cae a chanu o flaen faint bynnag mae’r stadiwm yn ei ddal.
“Mae o’n werfeiddiol o brofiad bob tro.”
Canu ar eu pennau eu hunain
Maen nhw hefyd wedi cael eu gwahodd i ganu ar wahân i’r dynion eraill, yn y twnnel lle mae’r chwaraewyr yn dod i mewn oddi ar y bws.
“Mae bws y timau yn dod lawr o dan y stadiwm,” meddai Alun Davies wedyn.
“Fyddan ni’n sefyll lle maen nhw’n dod off y bws, a chanu Calon Lân a Chwm Rhondda pan mae’r timau yn cyrraedd.
“Mae hynny yn rywbeth ychwanegol i ni fel Côr y Penrhyn.
“Rydan ni wedi’i wneud o o’r blaen pan wnaeth Cymru chwarae’r Alban.
“Mae hwnna’n brofiad ardderchog achos rydan ni’n sefyll bob ochr i’r grisiau.
“Mae’r chwaraewyr yn dod oddi ar y bws a thrwyddan ni i’r stafelloedd newid.”
Yn ôl Alun Davies, mae Côr y Penrhyn yn gobeithio y byddan nhw’n cael mynd i ganu eto yn un o gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Am Gôr y Penrhyn
Mae gwreiddiau Côr y Penrhyn yn mynd yn ôl cyn belled â’r 1880au.
Ond cafodd y côr presennol ei ffurfio yn 1935.
Yn y dechrau, roedd holl aelodau’r côr yn chwarelwyr, ond mae’r aelodau presennol yn ddynion sy’n gwneud amryw o swyddi.
Mae nifer o aelodau wedi ymddeol o’u gwaith ac yn gallu treulio cryn dipyn o’u hamser yn canu yn y côr.
Yn 2013, cafodd Anthem, CD sy’n cynnwys cymysgedd eclectig o ganeuon o dros y byd ei rhyddhau, er bod y pwyslais yn naturiol ar ganeuon Cymreig cynhenid.
Ar ddiwedd 2018, fe wnaeth y côr ryddhau CD newydd, sef “Gwlad”.