Mae drysau hudolus Academi Felys Richard Holt, un o brif gogyddion patisserie gwledydd Prydain, wedi agor unwaith eto.

Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf, mae meistr y pwdinau’n ysu i rannu ei sgiliau a darganfod pobyddion o fri yn ei Academi Felys 2022.

Yn Richard Holt: Yr Academi Felys, fydd yn dechrau nos Lun, Tachwedd 14 ar S4C, cawn ddilyn pump o gogyddion addawol wrth iddyn nhw wynebu llu o heriau pobi.

Mae hefyd yn rhannu rhai o’r cyfrinachau gorau a ddysgodd wrth weithio ym mwytai seren Michelin a’i ystafell de enwog, Melin Llynon ar Ynys Môn.

Ond dim ond y gorau fydd yn cael hawlio teitl yr Academi Felys.

O greu cacennau cywrain i bwdinau blasus hardd, bydd y pump yn wynebu pob math o heriau creadigol, wedi’u hysbrydoli gan gampweithiau Richard.

Yn ogystal â theitl yr Academi Felys, bydd y cogyddion y tro hwn yn cystadlu am wobr arbennig, sef taith i Paris, prifddinas y patisserie.

Yn gefndir i’r cyfan fydd Melin Llynon, ond bydd y tasgau melys amrywiol yn cael eu gosod i’r cystadleuwyr mewn lleoliadau hardd o amgylch y gogledd.

“Dwi wedi dewis pump o recriwts newydd sydd wrth eu boddau yn coginio cêcs,” meddai Richard Holt.

“Dwi isho rhannu sgiliau pobi efo nhw, a hefyd eu herio nhw i greu cacennau blasus a phrydferth.”

Y cystadleuwyr

Mae Mari Lois Evans, 20 oed o Botwnnog, Pen Llŷn, wedi cychwyn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Addysg Cynradd.

Yn ystod y cyfnod clo, roedd hi’n rhedeg busnes creu cacennau pen-blwydd i bobol o gwmpas Pen Llŷn.

Mae Gavin Owen o Gaernarfon yn 44 oed.

Agorodd siop siocled ryw bum mlynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn dysgu sut i wneud siocled ei hun dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Carol Vernau o Nefyn yn ei 40au cynnar, ac yn rhedeg busnes pobi cacennau pen-blwydd a dathliadau ers chwe blynedd.

Mae Wendy Pugh yn 69 oed, ac yn wreiddiol o Lannerchymedd ar Ynys Môn.

Mae wedi ymddeol fel nyrs ers dwy flynedd ac erbyn hyn yn canolbwyntio ar wneud cacennau. Mae hi wedi mynychu ysgol arbennig yn Hove, ger Brighton, i ddysgu technegau pobi.

Mae Caroline Morris, sy’n 40 oed ac yn dod o Eglwyswrw yn Sir Benfro, yn fam i ddau o blant ac yn gweithio i Gylch Meithrin, ac yn mwynhau coginio bob cyfle.

Y tasgau

Wedi iddo gael blas ar gacennau o safon y pum cystadleuydd yn sialens agoriadol yr Academi, bydd Richar Holt yn datgelu’r dasg dechnegol gyntaf, sef creu alarch toes choux, pwdin retro oedd yn boblogaidd yn y 1970au.

Ym mhob rhaglen, yn ogystal â dangos gallu’r cogyddion, bydd cyfle i weld dawn coginio anhygoel Richard Holt wrth iddo osod yr heriau i’r cystadleuwyr a chreu patisseries amrywiol ei hun.

O gacennau clasurol i bwdinau anarferol, bydd pob un o’i greadigaethau yn creu argraff gofiadwy ac yn ysbrydoli gwylwyr i bobi gartref.

Richard Holt… Ar Blât

Bethan Lloyd

Gyda’i dad yn rhedeg cwmni hufen iâ, a’i fam yn gogyddes ysgol, dim ond mater o amser oedd hi cyn i Richard Holt hyfforddi i fod yn gogydd