Mae Cyw yn barod i ddiddanu plant Wcráin, gyda fersiwn newydd o Cyw a’i Ffrindiau mewn Wcreineg sef Коко Ta Друзі tb a fydd yn lansio ar Sunflower TV.

Cwmni Boom Cymru sy’n cynhyrchu Cyw a bu’r cwmni yn gweithio gyda phlant sydd wedi ffoi o Wcráin gyda’u teuluoedd ac sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru, gan roi cyfle i rai o’r plant leisio’r rhaglenni.

Sianel YouTube ddielw yw Sunflower TV, a chafodd ei chreu yn benodol ar gyfer plant Wcráin.

Gyda hyd at 200 awr o gynnwys Wcreinaidd a Phrydeinig, mae Sunflower TV yn cynnig adloniant a seibiant i blant ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.

Cymeriadau ‘cyfeillgar a charedig’

Dau o’r plant wnaeth gymryd rhan yn y prosiect oedd Sophia Bondarenko ac Ivan Maslianka, fu’n byw gyda’u teuluoedd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ac sydd nawr wedi ymgartrefu yn y gymuned leol.

“Roedd cael y cyfle i leisio’r cartŵn am y tro cyntaf yn gyffrous iawn,” meddai Sophia Bondarenko.

“Dwi wrth fy modd gyda’r cymeriadau cyfeillgar a charedig.”

“Roedd yn brofiad diddorol iawn a ddim yn rhy anodd o gwbl,” meddai Ivan Maslianka.

“Fe wnes i fwynhau yn fawr.”

Seibiant i’r rhai ifanc

Cynhyrchydd y gyfres yw Kateryna Gorodnycha, sydd hefyd yn un o ffoaduriaid Wcráin.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y profiad bythgofiadwy yma, roeddwn i a’r teuluoedd yn falch o gael ymgymryd â’r gwaith,” meddai.

“Mae’r plant nid yn unig wedi ennill profiad, wedi cael llawer o hwyl ond hefyd tynnu eu sylw i ffwrdd am ychydig o’r sefyllfa echrydus yn Wcráin.

“Mae mor bwysig i ni ddod i adnabod Cymru, i ddod i adnabod eich diwylliant, ac mae’n wych ein bod ni’n dechrau gwneud hynny gyda chartwnau i’r rhai bach.”