Bydd Mici Plwm, yr actor, DJ a Maer Pwllheli, yn dechrau cyflwyno rhaglen “llawn nostalgia” ar donfeddi Radio Ysbyty Gwynedd yr wythnos hon.
Mae hi fel pe bai ei waith wedi gwneud cylch cyfan, meddai, gan iddo ddechrau darlledu gyda Radio Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Bydd y rhaglen wythnosol newydd, fydd yn dechrau ddydd Iau (Tachwedd 10) yn tynnu ar ei gasgliad o dros 1,000 o recordiau sydd ganddo ers dyddiau Disgo Teithiol Mici Plwm a’i gyfnod yn darlledu ar radio Ysbyty Morgannwg cyn hynny.
“Roeddwn i’n gwneud rhaglen wythnosol, dyna le’r oedd y diddordeb mawr mewn radio,” meddai Mici Plwm am ei gyfnod â radio’r Ysbyty Athrofaol.
“Radio, tasa hi’n mynd i hynny, ydy fy hoff gyfrwng i.
“Neidiais i at y cyfle [hwn] y munud hwnnw.”
‘Llawn nostalgia’
Ddoe yn ôl yng nghwmni Mici Plwm fydd enw’r rhaglen awr a hanner, fydd yn cael ei darlledu bob bore dydd Iau rhwng 10:30yb a hanner dydd.
“Mae gen i ddigon o ddeunydd efo ‘ddoe’. Tasa rhywun yn gofyn i fi wneud rhaglen ‘heddiw’, dydy fy nghasgliad i o bethau cyfredol ddim yn ôl y gofyn!” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n defnyddio fel [cerddoriaeth] er mwyn mynd mewn i’r rhaglen, Dyddiau Da, un o ganeuon Hergest… ‘yn doedden nhw’n ddyddiau da’, gan lincio i’r ffaith fy mod i’n dewis recordiau sydd ddim yn cael eu chwarae hyd heddiw.
“Yn fwriadol, mae hi’n rhaglen fydd yn llawn nostalgia.
“Be’ sy’n ddifyr iawn, ac yn [rhywbeth] oedd yn apelio ata i… nid jyst o fewn coridorau a wardiau’r ysbyty y mae hi’r dyddiau yma.
“Maen nhw’n darlledu allan hefyd, mae rhywun yn medru gwrando arno fo yn y car neu ar y radio adre. Mae nifer y gwrandawyr sydd ganddyn nhw wedi codi, mae’n nifer dda iawn rŵan.
“Dw i wedi bod yn paratoi, dw i wedi paratoi’r pum rhaglen gyntaf yn barod, yn fy mrwdfrydedd.
“Maen nhw newydd ennill [gwobr] y radio ysbyty orau ym Mhrydain, felly roedd hynny’n apelio.
“Roeddwn i’n teimlo hi’n anrhydedd i raddau fy mod i’n cael fy ngwahodd i fynd mewn.”