Bwrlwm a brwdfrydedd dyddiau cynnar S4C sy’n sefyll allan i Mici Plwm wrth i’r sianel ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed fis yma.
Yn ôl yr actor, roedd y nifer uchel o gwmnïau cynhyrchu annibynnol ac amrywiaeth y gwaith yn yr 80au yn uchafbwynt yn y cyfnod.
Roedd Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan ymysg y rhaglenni cyntaf i gael eu darlledu ar S4C ym mis Tachwedd 1982.
Pa atgofion sydd gan Mici Plwm o’r cyfnod felly?
“Roedden nhw’n ddyddiau da yn yr ystyr bod yna lot o waith o gwmpas, roedd yna lot o gwmnïau annibynnol o gwmpas,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n cofio gweithio ar amrywiaeth o waith, dyna oedd yn dda. Dw i’n cofio cyfres o’r enw Cysgodion Gdansk, sef drama drom, cofio Hufen a Moch Bach, Caffi Sali Mali, Anturiaethau Jini Mê, Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan…
“Roeddet ti’n gallu mynd o un wythnos i’r llall, fel oedd un cynhyrchiad yn dod i ben, roedd o’n cael gwahoddiad i wneud rhywbeth arall yn syth.
“Y dyddiau hynny, roedd yna lot o deithio rhwng Caerdydd, roeddwn i’n byw yng Nghaerdydd ar y pryd, a’r gogledd.
“Roedd nifer fawr o’r cwmnïau annibynnol wedi’u sefydlu fyny yn y gogledd, ac roedd Stiwdio Barcud yn bod [yng Nghaernarfon].
“Roeddwn i’n lwcus iawn adeg hynny’n cael croestoriad o waith.
“Mae hi wedi tawelu rŵan, wrth gwrs, i be’ oedd hi adeg hynny. Dw i ddim yn siŵr os ydy’r pwrs yn siwtio.
“Roedd yna fwrlwm mawr, a brwdfrydedd. Roedd yna gwmnïau annibynnol yn bob man, does yna ddim cymaint a chymaint i’w cael rŵan.
“Yr amrywiaeth o waith, dyna roeddwn i’n mwynhau fy hun, a phob actor a sgrifennwr arall. Fyswn i’n dweud eu bod nhw’n falch o’r amrywiaeth, roedd hynny’n hynod ddifyr.”
O Sbaen i Hollywood
Buodd Mici Plwm a Syr Wynfford Ellis Owen draw yn Sbaen yn ffilmio unwaith, ac fe gawson nhw daith i Hollywood hyd yn oed.
“Roedd yna lot o gydgynhyrchiadau’n mynd ymlaen,” meddai.
“Cwmni Burum oedd yn gwneud Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan yn gwneud cydgynhyrchiad efo cwmni o’r Almaen. Roedd yna lot o back to back, lle ti’n gwneud fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg.
“Roedden nhw wedi cael rhyw syniad o raglen ddogfen i raddau, ond doedden nhw ddim eisiau rhywun straight oedd jyst yn siarad i’r camera, roedden nhw eisiau rhyw gymeriadau [fel Syr Wynff a Plwmsan].”
The Illusion Machine oedd enw’r rhaglen, a chafodd ei ffilmio yn Universal Studios yn Hollywood.
“Be’ oedd o, mewn ffordd, oedd y ddau gymeriad yn mynd â’r gwylwyr ar daith o gwmpas y gwahanol stiwdios,” esbonia Mici Plwm.
“Wedyn ni o ran ein cymeriadau, roedden ni’n medru busnesu efo pethau doedden ni ddim i’w wneud.
“Fuon ni’n fan honno am tua mis yn ffilmio… dim bob dydd ti’n cael mynd i Hollywood!
“Roedden ni’n dipyn o bictiwr, mynd lawr yr Hollywood Boulevard i fynd i’r Hollywood Studios!
“Roedd yna Rolls Royce open top mawr gwyn yn pigo ni fyny, chauffeur bob bore, yn mynd â ni yna. Ni yn milking it, fel maen nhw’n dweud, fatha dau frenhines yn codi llaw ar bawb.
“Ond roedd y peth mor arferol yn y fan honno, doedd yna neb yn meddwl, ‘Waw be ydy rheina?’
“Roedden nhw jyst yn sbïo a chario ymlaen efo’i bywydau.
“Dw i ddim yn meddwl bod yna gymaint o’r math yna o bethau yn mynd ymlaen.
“Mae pethau wedi newid… mynd i Sbaen i ffilmio [Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan] achos ei bod hi wedi dechrau bwrw eira yn fan hyn ac roedd y sgript hwnnw i wneud efo Aur Bandit yr Andes, cwbl oedd yn digwydd oedd ein bod ni’n dweud, ‘Reit bore fory, pawb i ddod â’i gês, rydyn ni’n mynd allan i Alicante i ffilmio!’
“Roedd o’n very Hollywood-y! Gaethon ni hyd i’r aur yn diwedd… ond roedden ni wedi drysu, oranges oedden nhw!”
‘Ffilmio yn bob man yn ei batch’
Arferai Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan gael ei darlledu gan y BBC, cyn i S4C ddod i fodolaeth.
“Doedden ni ddim am adael i’r ddau gymeriad fynd,” meddai Mici Plwm.
“Roedden ni mewn comics fel Sboncen a Penbwl hefyd, comic strips, a Wynff a fi oedd yn sgrifennu’r sgriptiau felly fe wnaethon ni ei roi fel syniad.
“Roedd S4C wrth eu boddau efo pobol yn rhoi syniadau mewn, os oedden nhw’n syniadau eithaf roedden nhw’n cael eu derbyn.
“Yng Nghaernarfon, roedd pobol yn dod i wylio [pobol yn ffilmio] i ddechrau… ar ôl ryw flwyddyn, doedden nhw ddim yn sbïo arno fo fel dim byd gwahanol i bostmon yn mynd â llythyrau o gwmpas. Roedd rhywun yn ffilmio yn bob man yn ei batch.
“Os oedd yna ryw stwff stiwdio, fyny i [stiwdio] Barcud wedyn. Mae’n bechod bod Barcud wedi mynd.
“Mae amser yn mynd… roeddwn i’n cerdded ar draws y Maes yng Nghaernarfon ryw fis yn ôl ac mi waeddodd rhywun arna i: ‘Hei Mici Plwm, roedd gan Nain grush arna chi yn yr ysgol ers talwm!’… ‘Charming!’ medda fi.”