Dychwelodd gŵyl gerdd “eiconig” Iwerddon, Lleisiau Eraill, i Aberteifi eleni.

Cafodd Lleisiau Eraill, gŵyl gerdd a rhaglenni teledu cerddoriaeth fyw Iwerddon, ei chynnal yn fyw am y tro cyntaf ers 2019 fis Tachwedd.

Fel rhan o’r arlwy, bu tri diwrnod a thair noson o gerddoriaeth gan artistiaid o Gymru, Iwerddon a thu hwnt.

Cychwynnodd Lleisiau Eraill fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle yng ngorllewin Iwerddon ugain mlynedd yn ôl.

Ers hynny, mae’r ŵyl wedi tyfu ac wedi teithio i lefydd fel Llundain, Belffast, Efrog Newydd, Berlin, a Texas.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal yn Aberteifi yn 2019 hefyd, ac eleni cafodd Llwybr Cerdd ei gynnal mewn nifer o leoliadau o gwmpas y dref, gyda thros 80 o ddigwyddiadau.

Ynghyd â pherfformiadau cerddorol y Llwybr Cerdd, cafodd sesiynau Clebran eu cynnal, sef sgyrsiau gydag artistiaid, newyddiadurwyr, ac unigolion creadigol a gwleidyddol.

Huw Stephens oedd yn llywyddu’r ŵyl, a chafodd y prif berfformiadau eu cynnal yn Eglwys y Santes Fair, eu dangos yn fyw yn y Mwldan a’u ffrydio’n fyd-eang drwy YouTube Lleisiau Eraill.

Dyma rai o hoff luniau golwg360 o’r penwythnos gan y ffotograffydd Stuart Ladd…


 

Band hip hop Gwyddelig, Tebi Rex, yn perfformio yng Nghastell Aberteifi

 


Y canwr gwerin Dani Larkin yn perfformio ym mwyty Crwst

 


 

Y cerddor Al Lewis yn perfformio yn Bar 45

 


 

Y darlledwr Huw Stephens yn llywyddu’r sesiwn Clebran brynhawn dydd Gwener

 


 

Einir Dafydd, cerddor lleol, yng Nghastell Aberteifi

 


 

Eve Goodman o’r Felinheli ger Caernarfon yn perfformio yn Nhafarn yr Angel

 


 

Prif ganwr y band Pastiche o Iwerddon yn y Pizzatipi

 


 

Cynhaliodd Theatr Mwldan nifer o ddadleuon ysgogol yn ystod sesiynau Clebran

 


 

Y delynores o Fachynlleth, Cerys Hafana, yn perfformio yn oriel Canfas

 


 

Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn siarad yn sesiwn Clebran yn Theatr Mwldan ddydd Gwener