Heno yng Nghaergybi fydd perfformiad olaf taith yr opera Shoulder to Shoulder gan gwmni Opera Dinas Abertawe.

Mae libretto’r opera yn seiliedig ar brofiadau’r ‘Shedders’, y dynion hynny sy’n elwa ar broject Men’s Sheds Cymru – elusen sy’n ceisio lleddfu unigrwydd ymysg dynion hŷn, trwy gynnig cwmnïaeth a gweithgarwch iddyn nhw mewn sied lawn tŵls.

Un o sêr yr opera yw’r tenor o Sir Gâr, Aled Hall, sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, O’r Da i’r Direidus. Wrth sgwrsio gyda chylchgrawn Golwg am y llyfr soniodd y byddai wedi hoffi gallu cynnwys pennod am yr opera newydd, ond bod y gwaith ar y llyfr wedi ei gwblhau tua mis Mawrth.

“Byddai yna hell of a pennod nawr yn sôn am Shoulder to Shoulder, ac fel mae [perfformio ynddo] mor wahanol i chwe mis gynta’r flwyddyn,” meddai.

Ym mis Ionawr eleni roedd Aled Hall yn perfformio yn yr operâu Tosca a Peter Grimes yn y Royal Opera House yn Covent Garden, ysgwydd wrth ysgwydd â Bryn Terfel a chewri eraill y byd opera. Ac yn fwyaf diweddar bu ar y daith rownd Cymru gyda Shoulder to Shoulder, gyda’r gwahaniaeth yn y gwaith wedi ei daro.

“O ganu i 2,500 o bobol bob nos, i 50, neu 60 o bobol. Ond fi ffaelu aros i wneud y sioe heno eto. Mae’n anodd credu, achos they’re a world apart. Ond mae’r teimlad a’r wefr yn gywir yr un peth.”

Mae’r opera Shoulder to Shoulder wedi ymweld â Phentyrch, Upper Chapel, Clydach, Aberdaugleddau, Borth ger Aberystwyth, a bydd yn dod i ben yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi heno. Ac mae pobol wedi heidio i’w gwylio.

“Fuon ni yn Upper Chapel, ochr uchaf Aberhonddu, yng nghanol unman, ond roedd y lle’n llawn,” meddai Aled Hall.

“Odi, mae e dipyn yn wahanol. Yn amlwg, mae e’n fodern ac yn newydd, ac mae yn amserol. Mae shwt gymaint o broblemau iechyd meddwl i gael.”

 ‘Blydi lyfli o ddarn’

Daeth nifer o’r ‘siedwyr’ lleol i wylio’r opera ar y daith ac mae yna lawer iawn o “lefen a chwerthin” yn ystod y perfformiadau, yn ôl Aled Hall.

Cymeriad o’r enw ‘Dai’ mae e’n ei bortreadu yn yr opera, dyn y mae ei ferch ‘Gwen’ yn ei annog i ymuno â’r sied ar ôl iddo golli ei wraig, a cholli ei fab drwy hunanladdiad.

“Mae pethe wedi mynd yn drech nag e, ac mae hi’n dweud, ‘fi mynd â thi i’r sied yma, i ti gael gweld sut beth yw e’,” meddai Aled Hall. “Mae e’n go swil, ac amharod, ond erbyn diwedd, ma’ fe’n joio ac yn dod mas o’i gragen a rhannu’i stori. Mae gan bawb ei back-story. Fi yw’r un happy go lucky, yn cuddio tu ôl i’r wên, a thrio cadw pawb yn hapus. Er bod y wên yn cwato lot o bechode. Mae e wedi bod drwyddi a’i stori fe’n dod mas.

“Ma’ fe’n blydi lyfli o ddarn.”

Cyn y perfformiad yn Neuadd Gymunedol Clydach, cafodd y cantorion fynd i ymweld ag un o’r siediau llesol yma i ddynion, sydd wedi cael ei sefydlu gan fenyw o’r enw Belinda Gardiner mewn hen ofaint yn y pentref. Mae 74 o ddynion yn aelodau o’r sied.

“Nid dim ond i fois mae e,” meddai Aled Hall. “Mae sied i’r merched rownd y bac, ac mae 50 ohonyn nhw. O’n i lawr yn Aberdaugleddau, ac mae yna un yn fan hynny, ac mae un mowr yn Neyland i ga’l, ac roedd [aelodau’r] rhain i gyd yn dod i weld y sioe.

“Mae yna lot fawr o ups’n’downs. Lot o lefen, a lot o wherthin. A rial gwd cast.”

Ail fywyd i’r opera?

Mae’r cwmni yn gobeithio y bydd Shoulder to Shoulder yn parhau ar ôl y daith fer chwe sioe eleni. Roedd cynrychiolaeth o Gyngor Celfyddydau Cymru yn ei gwylio yn Aberdaugleddau, ac mi ffilmiwyd un perfformiad er mwyn mynd ag e i Arts Council England lle mae yna lawer o fentrau siediau dynion.

“Allen ni fynd ag e i Awstralia, Canada… maen nhw bob man,” meddai Aled Hall. “Ac mewn ffordd mae’r siediau yma yn safio miloedd ar filoedd o bunnoedd i’r Gwasanaeth Iechyd. Honna yw’r neges. Ac mae’n wir. So’r bois yma ar dabledi, maen nhw’n joio bywyd eto. Mae gyda nhw reswm i fyw.”

 

  • Bydd cyfweliad gydag Aled Hall am ei hunangofiant, O’r Da i’r Direidus, yn rhifyn nesaf cylchgrawn Golwg ar 10 Tachwedd