Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Be dach chi’n estyn amdano i wella hangofyr? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cogydd a pherchennog Melin Llynon yn Ynys Môn, Richard Holt, sydd Ar Blât yr wythnos hon…

Un o fy atgofion cyntaf erioed o fwyd ydy marsipán. Roedd Mam wrth ei bodd yn gwneud ffrwythau bach o marsipán ac oeddan nhw’n amazing. Dim ond adeg Dolig oedd hi’n gwneud nhw ac ro’n i methu credu bo chdi’n gallu bwyta lwmp o marsipán. Efo’r rhai oedd yn edrych fel oren, roedd Mam yn sticio clof i mewn i’r canol ac roedd hynny’n rhoi oglau hyfryd drwy’r holl beth. Felly i fi, y peth sy’n atgoffa fi o’r Nadolig fwya’ ydy marsipán efo hint o clof.

Mam oedd y gogyddes yn fy ysgol i. Roedd Mam angen swydd ar ôl cael fi a’n chwaer – dan ni’n debyg iawn mewn oed, dim ond 10 mis sydd rhyngddon ni – ac roedd swydd yn mynd yn yr ysgol leol [Ysgol Talwrn yn Ynys Môn]. Gan bod Mam ddim yn dreifio ar y pryd, roedd hi’n cerdded efo fi a’n chwaer i’r ysgol a pigo ni fyny wedyn, oedd yn handi iawn. Roedd hi’n cŵl cael Mam oedd yn gogyddes yn yr ysgol. Roedd yr ysgol mor fach hi oedd yr unig un oedd yn coginio. Roedd hi’n gwneud lot o’r bwyd ei hun fel y pastry ar gyfer y peis cyw iâr. Un o’n ffefrynnau i oedd y Manchester tartpastry, efo haen o jam, banana a chwstard, a coconyt ar ei ben. Dyna oedd fy hoff bwdin i erioed yn yr ysgol.

Hufen ia Punky Penguin

Roedd gan Dad ei gwmni hufen iâ ei hun. Mae o wedi bod yn gweithio yn y busnes hufen iâ ers cyn i fi gael fy ngeni. Roedd o wedi cychwyn yn Sir Fôn, cyn creu busnes ei hun, a rŵan mae gynno fo ffatri fawr yn Barcelona. Mae’r cwmni’n gwerthu’r Punky Penguin, y pengwin plastig llawn hufen iâ, a llwyth o bethau eraill. Oedd gynnon ni un o’r Wall’s freezers mawr yn y garej ac roedd Dad yn mynd i sioeau yn aml ac roedd y freezers wastad yn llawn hufen iâ. I fod yn deg wnaeth fi a’n chwaer gael llond bol o hufen iâ, a hyd yn oed rŵan, dw i ddim yn mwynhau o gymaint â hynny.

Mae gan Anti ac Yncl fi ffatri siocled yn Cumbria so pan oeddan ni’n tyfu fyny, bob Dolig oeddan ni’n cael bocs o siocled ganddyn nhw yn llawn truffles a phethau neis felly. Wnes i fynd off i wneud lot o wahanol bethau, fel cerddoriaeth,  ond ro’n i methu dianc o’r traddodiad teuluol o wneud rhywbeth efo bwyd. Dim ond mater o amser oedd hi cyn i fi ddod yn chef. Pan wnes i hyfforddi i fod yn chef es i weithio efo Anti ac Yncl fi yn y ffatri. Mae’r ddau yn ex-RAF, roedden nhw wedi ymddeol ac eisiau rhywbeth i wneud. Oedd eu ffordd nhw o weithio mor drefnus, mor lân, dim gwastraff o gwbl, ac mor relaxing. Mae’n ofnadwy o relaxing gweithio efo siocled – mae jest yr arogl, a’r ffordd ti’n gweithio efo fo.

Pan o’n i’n tyfu fyny roedd Mam a Dad yn cael lot o dinner parties adra ac roedd fi a’n chwaer wrth ein boddau yn helpu efo’r hosting duties. Dyna’r unig adeg oeddan ni’n cael blinis, felly pan dw i eisiau comfort food na’i gael smoked salmon, Philadelphia [caws hufen] a chracers. Fel oedolyn, dw i’n gallu bwyta’r rhain unrhyw adeg ond mae jest yn rhywbeth nostalgic.

Dw i wedi bwyta mewn llu o lefydd ond yr un mwyaf cofiadwy oedd pan wnaeth fy nghariad, Kate, fynd a fi am bryd o fwyd i’r Fat Duck [bwyty Heston Blumenthal yn Bray, Berkshire] jest cyn Covid fel trit ar fy mhen-blwydd. Roedd hwnna’n hollol mindblowing.

Dw i wrth fy modd efo barbeciw a blas y mwg. Dw i’n foi savoury fy hun. Fy nghrefft ydy pethau melys a dw i wrth fy modd yn eu gwneud nhw ond, yn bersonol, mae’n well genna’i bethau sawrus, felly unrhyw ddarn o gig ar y barbeciw a dw i’n hapus.

Cyw iâr wedi’i rostio ydy’r pryd go to. Mae Kate a finnau wedi ffeindio llwyth o bethau gwahanol i wneud efo cyw iâr wedyn, fel cyri, neu Chinese. Dw i jest licio rhoi cyw iâr yn y popty a’i fwynhau efo beth bynnag sydd ar gael.

Pan dw i’n creu ryseitiau ar gyfer y teledu mae fy ffrindiau a theulu wastad yn blasu nhw gyntaf. Yr un mae Kate yn gwneud i fi goginio iddi dro ar ôl tro ydy floating islands, efo creme anglaise.

 

Fe fydd cyfres newydd o’r Academi Felys yn dechrau ar S4C ym mis Tachwedd.