Mae costau byw ar i fyny, mae rhyfel ar y gweill yn Ewrop, ac mae streiciau’n lledaenu ar draws gwasanaethau trafnidiaeth, ond er gwaetha’r newidiadau hyn, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi penderfynu blaenoriaethu cynlluniau am ragor o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Ar adeg pan fo teuluoedd ledled Cymru’n wynebu dewisiadau ariannol anodd, mae Llywodraeth Cymru a’u partneriaid cenedlaetholgar wedi cynnig ehangu’r Senedd ar gost o hyd at £100m i drethdalwyr Cymru.

Dydy pobol Cymru ddim eisiau gweld arian a allai gael ei ddefnyddio i leddfu caledi yn cael ei wastraffu ar ragor o wleidyddion. Yn hytrach, maen nhw am weld mwy o gyfleoedd am swyddi, a therfyn ar y dirywiad mewn safonau addysg yng Nghymru a chamau i fynd i’r afael â rhestrau aros Llafur – y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig – sy’n torri record.

Mae ychwanegu rhagor o wleidyddion eisoes yn gamddefnydd difrifol o arian trethdalwyr, ond mae’r ffordd y mae wedi cael ei drin wedi dangos dirmyg tuag at ddemocratiaeth Cymru, y bydd y cynlluniau hyn yn ei thanseilio’n ddifrifol.

Y llynedd, cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ei sefydlu i ymchwilio’n well i effeithiau deddfwrfa ailgyfansoddedig.

Mewn gweithred amlwg o ddiystyru Senedd Cymru, cyhoeddodd Mark Drakeford ac Adam Price ddatganiad ar y cyd ynghylch eu cynlluniau arfaethedig cyn i’r Pwyllgor gyhoeddi eu casgliadau.

Mae gwrthod prosesau seneddol fel y gwnaethon nhw’n dangos mai at ddiben sioe oedd y cyfan. Roedd y penderfyniad i wastraffu arian ac adnoddau ar rywbeth roedd Mark Drakeford ac Adam Price yn gwybod y bydden nhw’n troi yn ei gylch yn sarhad yn erbyn y senedd maen nhw’n honni eu bod nhw eisiau ei chryfhau.

Mae pawb yn gwybod fod Mark Drakeford yn chwilio am waddol y tu hwnt i wasanaethau cyhoeddus dadfeiliedig, ond nid dyma’r ffordd o’i sicrhau.

Mae cefnogwyr ehangu’r Senedd yn nodi’r gostyngiad sydd i ddod yn nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig – ond mae hyn o ganlyniad i adolygiad o ffiniau sy’n dangos bod Cymru’n cael ei gor-gynrychioli yn San Steffan, nid rhyw gynllwyn i’n tawelu ni.

Yn ôl pob tebyg, bydd y cynlluniau arfaethedig am ragor o aelodau’n caniatáu mwy o graffu. Ond wythnos ar ôl wythnos yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog, mae Adam Price yn dewis siarad am bopeth nad yw Mark Drakeford yn gyfrifol amdano.

Yn wir, gallai dyn ddadlau nad yw Plaid na Llafur yn fwriadol graffu’n iawn oherwydd mae’n bodloni eu dadl yn y pen draw dros ragor o aelodau, rhagor o bwerau, a chwblhau eu proses o adeiladu gwladwriaeth tuag at Gymru annibynnol. Wedi’r cyfan, mae Mark Drakeford a nifer o’i gydweithwyr yn ymddangos fel pe baen nhw’n unoliaethwyr mewn enw’n unig.

Hefyd, dydy’r system etholiadol maen nhw wedi dewis yn hapus iawn iddyn nhw eu hunain ddim yn golygu rhagor o graffu. Byddai’r cynllun Drakeford-Price yn gweld y 32 etholaeth seneddol sy’n dod i rym ar ôl yr adolygiad ffiniau’n cael eu paru i greu 16 sedd enfawr efo chwech Aelod o’r Senedd yr un, wedi’u cymryd oddi ar restr gaëedig wedi’u llunio gan bleidiau ac nid y cyhoedd.

Felly nid yn unig maen nhw eisiau refferendwm i roi sêl bendith i’w cynllun oherwydd maen nhw’n gwybod na fyddai fyth yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arno, ond maen nhw eisiau tynnu grym oddi ar y bobol a’i roi i bleidiau gwleidyddol a fydd yn penderfynu pa ymgeiswyr sydd â’r siawns orau o ennill.

Byddai hyn yn digwydd mewn etholaethau mawr – gallai un ymestyn dros un rhan o bump o dir Cymru – sy’n gwneud dim ond ymbellhau gwleidyddion oddi wrth y pleidleiswyr maen nhw i fod yn atebol iddyn nhw. Mae datganoli i fod i olygu rhoi grym yn nwylo cymunedau, ond dim ond mynd ag o i ffwrdd mae hyn.

Byddai’r rhestrau caëedig hyn, o dan y cynlluniau, yn seiliedig ar rywedd – sy’n golygu y byddai dynion a menywod yn cyfnewid eu llefydd am yn ail ar y rhestrau er mwyn sicrhau senedd sy’n gytbwys o ran y rhywiau.

Waeth pa mor gyfreithiol amheus ydi hyn, mae’n foesol anghywir ac yn ymarferol ddiangen. Mae Cymru eisoes wedi pleidleisio dros Gynulliad cytbwys o ran rhywiau yn y gorffennol – mewn un tymor, roedd mwy o fenywod na dynion mewn gwirionedd – ac wn i ddim am neb a fyddai’n mwynhau llwyddiant etholiadol ar sail eu rhyw, fel y byddai’n gas ganddyn nhw fethiant ar sail eu rhyw hefyd.

Ar ben hynny, bydd anallu’r pleidiau asgell chwith i ddiffinio’r hyn yw dynes ynddo’i hun yn creu bylchau a phroblemau i’r fath raddau nes y gallai’r rheolau ddod yn ddiystyr beth bynnag.

Yn olaf mae mater cydsyniad. Does dim mandad poblogaidd o blaid y newidiadau hyn. Rydyn ni wedi gweld hynny yn y polau, ond fe welson ni fo hefyd yn yr etholiad datganoledig y llynedd lle disgynnodd Plaid i’r trydydd safle.

Do, ddaru Llafur ennill, ond dydi nodi “byddwn ni’n adeiladu ar waith Pwyllgor y Senedd ar ddiwygio etholiadol” a “datblygu cynigion i wella cynrychiolaeth pobol Cymru yn eu Senedd” ddim yn agos at fod yn ddigon clir i’w gymryd fel carte blanche i newid y system etholiadol yn ddramatig gan ddileu cyntaf i’r felin a chynyddu maint senedd gan 60% heb ymgynghori ag etholwyr. Ddaru nhw ddim hyd yn oed siarad amdano fo yn ystod yr etholiad.

Y gwir plaen ydi nad yw pobol Cymru wedi pleidleisio o blaid y newid hwn, a does gan y cynlluniau hyn mo cefnogaeth y cyhoedd.

Yn gywir iawn, mae pob newid i ddemocratiaeth yng Nghymru wedi dod ar ôl refferendwm.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i brofi awydd y cyhoedd am y newid mawr hwn a phe bai pobol Cymru’n penderfynu eu bod nhw eisiau mwy o wleidyddion yn y Senedd, byddwn ni’n anrhydeddu canlyniadau’r refferendwm.

Tra bod pleidiau’r chwith yn cynnig ystrydebau gwag am ddemocratiaeth Cymru, alla i ddim ond adlewyrchu ar eu dyhead i anwybyddu ewyllys pobol Cymru a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Am flynyddoedd, ddaru Llafur a Phlaid ddweud wrth bobol Cymru yn ei hanfod eu bod nhw wedi cael yr ateb yn anghywir a bod angen iddyn nhw geisio eto. Am wn i, dyna pam nad ydyn nhw eisiau profi eu cynigion.

Os ydyn nhw o ddifri am ddemocratiaeth, os ydyn nhw’n credu bod angen a bod dyhead am eu cynigion, pe baen nhw’n ymddiried yn eu pleidleiswyr, yna byddai Llafur yn gweithredu ar sail ein galwadau i roi hyn gerbron pobol Cymru mewn refferendwm.