Mae golwg360 yn deall bod trafodaethau’n cael eu cynnal heddiw (dydd Mercher, Mai 4) i drafod dyfodol ‘Pobol y Cwm’.

Yn ôl sawl ffynhonnell, mae actorion a chriw’r rhaglen boblogaidd ar S4C wedi cael eu galw i gyfarfod Zoom.

Mae golwg360 yn deall y byddai hyn yn arwain at doriad yng nghyllideb y rhaglen, ac o bosib yn nifer yr oriau darlledu – gyda’r posibilrwydd o’i darlledu am naw mis o’r flwyddyn.

Dim ond tair pennod o Pobol y Cwm yr wythnos sydd yn cael eu darlledu ers mis Tachwedd y llynedd.

Costau ychwanegol oherwydd Covid oedd y prif reswm am y penderfyniad, yn ôl S4C, oedd yn dweud ar y pryd fod “nifer o bethau i’w hystyried a’u cytuno”.

Roedd y materion hynny’n cynnwys “beth yw effaith Covid ar y drefn cynhyrchu o Ionawr ymlaen, costau ychwanegol sy’n deillio o gynhyrchu dan drefniadau Covid [a] deisyfiad S4C i gael cynnwys digidol/ar-lein dan faner Pobol y Cwm”.

Mae angen hefyd “ystyried sut mae costau diweddaru offer technegol i gyd yn bwydo mewn i’r broses”.

Mae’r rhaglen yn cael ei chynhyrchu gan BBC yn eu stiwdios yng Nghaerdydd.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan S4C a’r BBC.