Bydd Cymru’n cystadlu yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol Wici’r Holl Ddaear eto eleni.
Mae croeso i unrhyw un gystadlu yn rownd Cymru drwy dynnu llun yn unrhyw un o ardaloedd gwarchodedig y wlad, a bydd y beirniaid yn dewis y deg llun gorau er mwyn eu gyrru ymlaen i’r gystadleuaeth ryngwladol.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan WiciMedia, Jason Evans o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a WiciMôn, sy’n rhan o Fenter Môn.
Cafwyd 2,000 o geisiadau o bob cwr o’r wlad llynedd, a daeth Cymru’n wythfed allan o’r holl wledydd oedd yn cystadlu, meddai Robin Owain, un o drefnwyr y gystadleuaeth yng Nghymru, wrth golwg360.
“Mae yna ryw ugain o gystadlaethau yn cael eu cynnal gan WiciMedia, a nhw sy’n fy nghyflogi i,” eglura.
“Y brif un ydy WiciHenebion, honno ydy cystadleuaeth ffotograffiaeth fwyaf y byd.
“Rydyn ni wedi cymryd rhan yn honno droeon, ond rydyn ni’n gorfod gwneud o dan yr UK efo honno.
“Ond llynedd, fe dorron ni’n rhydd a sefyll fel cenedl ar ein traed ein hunain, ar ein tir ein hunain [yng nghystadleuaeth Wici’r Holl Ddaear].
“Mi fu hi’n frwydr hir a chwerw iawn, roedd hi fel Camlan ddigidol yma â dweud y gwir… mae’r creithiau dal i’w gweld ar fy nwylo!
“Mae yna bennill gan Niclas y Glais – Mae’r byd yn fwy na Chymru/ Rwy’n gwybod hynny’n awr,/ ond diolch fod hen Gymru fach/ Yn rhan o fyd mor fawr.
“Mae yna fyd mawr allan yna, mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd rhan yn hwnnw, dydy.”
Statws gwarchodedig
Roedd tri pharc cenedlaethol Cymru’n bartneriaid yn y gystadleuaeth llynedd, yn ogystal â chymdeithas natur fwyaf Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd.
Alun Williams, un o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd, ddaeth i’r brig ymhlith cystadleuwyr Cymru llynedd, gyda llun o ysgyfarnog.
Gofynion y gystadleuaeth yw tynnu llun mewn ardal naturiol sy’n cael ei gwarchod, cyn uwchlwytho’r lluniau i Comin Wicipedia yn ystod mis Mehefin.
Bydd y deg llun fydd yn mynd ymlaen i’r rownd ryngwladol yn cael eu datgelu ym mis Gorffennaf.
“Mae gen ti Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), ardaloedd sy’n cael eu gwarchod o ran gwyddoniaeth, ac wedyn – fel Bryniau Clwyd yn fan yma – Ardaloedd o Harddwch Naturiol,” meddai Robin Owain.
“Mae unrhyw un o’r ddau yna’n cyfrif, ac mae unrhyw le o fewn parciau cenedlaethol yn cyfrif hefyd, sydd yn ymbarél ychydig bach lletach nag SSSIs.
“Mae yna bob math o bethau eraill, mae Ewrop wedi rhoi statws Natura i wahanol ardaloedd yng Nghymru, mae’r rheiny’n cyfrif hefyd.
“Ffeindio fysa rywun gyntaf, ‘Reit dw i eisiau mynd am dro, mae gen i gamera, ydy hwn mewn ardal sy’n cael ei warchod dan ryw statws gwarchodedig?’ Ac os ydy o, tynnu lluniau.
“Fedrith pawb wneud hynny rŵan, a’u huwchlwytho nhw i Comin ym mis Mehefin.
“Mae Comin yn un o’n prosiectau ni, ac yn blatfform rhyngwladol. Mae gennym ni statws fel cenedl, fel iaith ar Wiki ac mae hi’n bwysig ein bod ni’n defnyddio a hybu honno.
“Be sy’n dda ydy bod y lluniau ar drwydded agored, unrhyw lun ar Comin. Mae o’n iach iawn cael rhannu pethau am ddim.”
Mae’r drefn ar gyfer cyfrannu lluniau i’r gystadleuaeth yr un fath eleni â llynedd, a cheir mwy o gyfarwyddiadau yn y fideo isod neu ar wefan Wici’r Holl Ddaear.