Bydd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, yn arwain dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 9), gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i sicrhau bod pawb sydd angen cynnyrch mislif am ddim yn gallu cael gafael arnyn nhw, lle bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru.

Fis Awst, daeth y Ddeddf Cynhyrchion Mislif (Darpariaeth Rhad ac Am Ddim) i rym yn yr Alban, y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gynhyrchion mislif fod ar gael am ddim mewn adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion ledled yr Alban.

Mae Tlodi Mislif – yr anallu i fforddio cynhyrchion mislif – wedi effeithio ar o leiaf 15% o ferched Cymru rhwng 14 a 21 oed ar ryw adeg yn ôl Plan UK yn 2021.

Gyda’r argyfwng costau byw yn effeithio’n gynyddol ar bobol ledled Cymru, mae tystiolaeth gan fanciau bwyd a sefydliadau eraill yn awgrymu bod y broblem yn gwaethygu.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o fentrau dros y blynyddoedd diwethaf, a hefyd wedi datblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif, dydy hon ddim yn weledigaeth nac yn hawl sydd wedi’u hymgorffori yn y gyfraith.

‘Normaleiddio mislif’

Mae Heledd Fychan yn credu bod deddf o’r fath yn hanfodol i normaleiddio mislif a sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru.

“Mae mislif yn weithred gorfforol hollol normal, ac nid yw’n iawn bod rhai pobol yng Nghymru yn dal i gael eu hamddifadu o’u hurddas oherwydd na allant fforddio’r cynhyrchion hanfodol hyn,” meddai.

“Er bod gwelliannau wedi’u gwneud i sicrhau bod cynhyrchion mislif rhad ac am ddim ar gael yn ehangach yng Nghymru, mae gormod o rwystrau o hyd gyda nifer sydd eu hangen dal i fethu cael gafael arnynt.

“Drwy ymgorffori’r hawl hyn yn y gyfraith, a’i wneud yn ofyniad cyfreithiol, byddem yn gwneud yn siŵr bod pawb sydd eu hangen yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim.

“Os ydym o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb, yna mae hwn yn gam angenrheidiol a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Alban fel mater o frys.”