Mae Liz Saville Roberts wedi beirniadu Gavin Williamson, sydd wedi ymddiswyddo o Gabinet Llywodraeth San Steffan yn dilyn honiadau o fwlio.
Mae’r cyn-weinidog heb bortffolio wedi’i gyhuddo o fwlio aelodau seneddol eraill a gweision sifil, ond mae’n gwadu’r honiadau.
Dim ond ers pythefnos roedd e yn y swydd, ar ôl i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dilyn ymadawiad Liz Truss ar ôl dim ond chwe wythnos yn y swydd.
Daeth yr honiadau i’r fei am y tro cyntaf mewn erthygl yn y Sunday Times, wrth iddyn nhw gyhoeddi cyfres o negeseuon testun llawn rhegfeydd anfonodd Gavin Williamson at Wendy Morton, Prif Chwip y Blaid Geidwadol ar y pryd.
Roedd e’n cwyno na chafodd e wahoddiad i angladd Brenhines Lloegr, gan gyhuddo Wendy Morton o wfftio aelodau seneddol nad oedden nhw’n ran o gylch agosaf Liz Truss.
Wrth ymateb, dywedodd Gavin Williamson fod yna “bris i’w dalu am bopeth”, ac na ddylai hi ei “wthio o gwmpas”.
Dywedodd gwas sifil arall fod Williamson wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol, pan oedd yn Ysgrifennydd Amddiffyn, am “hollti” eu gwddf ac am “neidio drwy’r ffenest”.
Dywedodd ei gyn-ddirprwy Anne Milton ei fod e wedi ymddwyn yn “fygythiol” tuag at aelodau seneddol pan oedd yn Brif Chwip, ac mae cyn-Gadeirydd y Blaid Geidwadol Jake Berry yn dweud iddo roi gwybod i Rishi Sunak am ei honiadau ddiwrnod cyn iddo benodi Gavin Williamson i’w Gabinet.
Mae Downing Street yn mynnu nad oedd e’n ymwybodol o “sylwedd” yr honiadau, ond yn cydnabod ei fod yn ymwybodol o “anghydweld”.
Ar ôl i Williamson a Sunak fod yn trafod y sefyllfa, daeth cadarnhad o’i ymddiswyddiad, ac mae Williamson wedi’i gyfeirio at y Cynllun Annibynnol Cwynion yn sgil ei negeseuon at Wendy Morton ar WhatsApp, ac mae adroddiadau bod gwas sifil arall wedi cwyno hefyd.
Mae Rishi Sunak yn dweud bod y negeseuon yn “annerbyniol”, ond mae e wedi gwrthod dweud a yw’n gyfystyr â bwlio.
Hanes cythryblus
Dyma’r trydydd tro i Gavin Williamson orfod gadael Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn 2019, cafodd ei ddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Amdddiffyn yn dilyn honiadau ei fod e wedi rhyddhau gwybodaeth sensitif am ran Huawei yn rhwydwaith 5G y Deyrnas Unedig.
Cyn diwedd y flwyddyn honno, cafodd ei benodi’n Ysgrifennydd Addysg yng Nghabinet Boris Johnson ond cafodd ei ddiswyddo yn 2021 am y ffordd yr aeth e ati i ymdrin ag arholiadau Safon Uwch yn ystod y pandemig Covid-19.
Yn sgil yr helynt, mae Liz Saville Roberts wedi beirniadu Gavin Williamson a Rishi Sunak, ac wedi rhybuddio Suella Braverman, sydd wedi bod dan y lach yn ddiweddar am anfon negeseuon gwaith sensitif o gyfrif e-bost personol.
Dim ond 13 diwrnod barodd Braverman yn y swydd o dan arweinyddiaeth Liz Truss cyn gorfod ymddiswyddo, ond mae hi wedi cael dychwelyd ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog, gyda rhai yn galw am ymchwiliad i sut mae hynny wedi gallu digwydd.
“Wrth benodi Gavin Williamson i’r Cabinet, dangosodd Rishi Sunak y bydd e bob amser yn rhoi’r Blaid Dorïaidd uwchlaw popeth arall,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’r un yn wir am benodiad Suella Bravermen.
“Da bod Williamson wedi mynd – ond rhaid i Braverman dalu sylw rŵan.”