Mae Yes Cymru, y mudiad tros annibyniaeth i Gymru, wedi beirniadu “nepotiaeth” system wleidyddol San Steffan, yn dilyn cyhoeddi rhestr anrhydeddau Boris Johnson wrth iddo adael swydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae’n draddodiad fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi rhestr o anrhydeddau wrth adael y swydd, ac mae’r anrhydeddau fel arfer yn cael eu rhoi i aelodau blaenllaw o’u staff.

Pan ymddiswyddodd Liz Truss ar ôl wythnosau yn unig yn y swydd, penderfynodd hi fynd yn groes i’r traddodiad a pheidio â chyhoeddi rhestr gan ei bod hi wedi bod yn y swydd am gyn lleied o amser.

Mae disgwyl i restr anrhydeddau Boris Johnson gostio £559,000 y flwyddyn i drethdalwyr, yn ôl adroddiadau’r wasg Brydeinig – cost o ychydig yn llai na £28,000 y pen.

Ymhlith y rhai sy’n debygol o fod ar y rhestr i sicrhau lle yn Nhŷ’r Arglwyddi am weddill eu hoes mae’r cyn-Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries, Llywydd COP26 Alok Sharma, Ysgrifennydd yr Alban Alister Jack, a’r cyn-weinidog Nigel Adams.

Hefyd ar y rhestr bosib mae ei gyn-bennaeth staff Dan Rosenfield a dirprwy hwnnw Ben Gascoigne, ynghyd â’r ymgynghorwyr Ross Kempsell a Charlotte Owen, a llu o’i staff yn City Hall yn Llundain, cyn-ymgeisydd ar gyfer Maer Llundain Shaun Bailey, ac un o noddwyr y Blaid Geidwadol a chyd-sylfaenydd Carphone Warehouse David Ross.

Ross Kempsell

Yn 30 oed, mae Ross Kempsell yn un o’r rhai ieuengaf ar y rhestr.

“Ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch sut mae system wleidyddol neigarol San Steffan yn gweithio? Cymerwch achos Ross Kempsell. Ffrwd…” meddai neges ar gyfryngau cymdeithasol Yes Cymru.

“Camodd Ross Kempsell i (gyrion) y goleuni yn ohebydd ifanc Talk Radio wnaeth saernïo’r cyfweliad gwallgof dead-cat gyda Boris Johnson ar bwnc hoffter annhebygol Johnson o greu modelau o fysiau coch – ystryw i dynnu sylw google-wyr oddi wrth gelwydd llawer mwy.

“Symudwn ymlaen amser byr iawn, ac mae Kempsell yn ymddangos ar gyflogres Johnson yn Downing Street fel rhan o’r tîm cyfathrebu. Rhan o ‘Dîm Boris’.

“Symudwn ymlaen amser byr iawn eto, a phwy sydd drwy hud a lledrith yn ymddangos ar restr anrhydeddau ymddiswyddiad Johnson, ond Ross Kempsell.

“Arglwydd Kempsell fydd Kempsell yn fuan iawn – yn Arglwydd am oes.

“Bydd e’n rhan o’r ddeddfwrfa am weddill ei oes.

“Bydd Kempsell yn cymryd rhan mewn creu cyfreithiau a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig hyd y bydd yn dymuno gwneud.

“Gymru, gallwn ni wneud llawer, llawer gwell na hyn.

“Mae’n bryd cael #annibyniaeth.”