Mae grŵp o arbenigwyr yn ceisio barn pobol Cymru ar sut i warchod dyfodol cymunedau Cymraeg.
Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i wneud argymhellion ar sut i helpu holl gymunedau Cymraeg y wlad i ffynnu.
Bydd yr alwad am dystiolaeth yn hollbwysig i adroddiad y comisiwn a fydd yn cynnig argymhellion i’r llywodraeth, ac maen nhw’n dymuno clywed gan aelodau o’r cyhoedd a mudiadau.
Mae’r Comisiwn eisiau barn pobol ar bob math o faterion sy’n effeithio ar gymunedau Cymraeg, o dai ac addysg i ddatblygiad cymunedol ac adfywio.
Mae’r alwad am dystiolaeth yn agor ar ddydd Mercher (Tachwedd 9), a dylid cyflwyno’r ymatebion erbyn Ionawr 13 y flwyddyn nesaf.
Mae cryfhau cymunedau Cymraeg yn ganolog i strategaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
‘Hanfodol cryfhau a diogelu cymunedau’
“Mae’n hanfodol bod ein cymunedau yn gryf ac wedi’u diogelu fel y gall Cymraeg ffynnu,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
“Mae’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n siŵr y bydd gan lawer o bobol farn ac awgrymiadau ar gyfer newid hyn.
“Bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr er mwyn gweld sut bydd yr economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar ddyfodol Cymraeg yn ein cymunedau.”
Yn ôl Dr Simon Brooks, cadeirydd y Comisiwn, maen nhw’n awyddus i “roi cyfle i bawb ddweud eu dweud am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg”.
“Bydd tystiolaeth a syniadau sy’n cael eu cyflwyno i ni yn hanfodol wrth i ni weithio ar ein hargymhellion fel comisiwn,” meddai.
“Dwi’n annog cymaint o bobol â phosib i gymryd rhan, a dwi’n addo y bydd pob syniad yn cael ei ystyried yn ofalus.”