Bob blwyddyn, mae arweinwyr gwladol y byd yn ymgynnull i drafod yr argyfwng hinsawdd a sut maen nhw’n mynd ati i daclo’r broblem.

Eleni, mae’r gynhadledd yn Sharm El-Sheikh yn yr Aifft, rhwng Tachwedd 6-18, i nodi 30 mlynedd ers sefydlu Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig.

Mae hon yn adeg dyngedfennol yn yr ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae cynhesu byd eang wedi arwain at sychder, llifogydd a thywydd eithafol sy’n achosi dadleoli, tostrwydd, newyn, a marwolaethau enbyd.

Beth i’w ddisgwyl o COP27?

Ar ôl blwyddyn o ansefydlogrwydd eithafol a ddaeth â realiti’r argyfwng hinsawdd yn amlwg i lawer, mae rhywfaint o obaith y bydd y cynadleddwyr yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn yr ymdrech i atal trychineb hinsawdd.

Un o’r prif bynciau y bydd pobol yn ei drafod yw’r angen i dorri tanwyddau ffosil (glo, olew a nwy) a’r nwyon tŷ gwydr sy’n cynhesu’r ddaear.

Mae tymheredd y byd wedi codi 1.1 gradd selsiws ac yn codi tuag at 1.5 gradd selsiws, yn ôl gwyddonwyr hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, yr IPCC.

Dywed yr IPCC, pe byddai’r tymheredd yn codi o 1.7 gradd selsiws i 1.8 gradd selsiws, byddai hanner poblogaeth y byd yn wynebu peryg bywyd.

I atal hyn, llofnododd 194 o wledydd Gytundeb Paris (2015) er mwyn ymdrechu i beidio cyrraedd yn uwch na’r 1.5 gradd selsiws.

Baner, gyda rhai o'r arweinwyr ar lwyfan COP27
Cafodd mwy na 200 o lywodraethau eu gwahodd

O ystyried bod y gynhadledd y flwyddyn hon yn Affrica, mae disgwyl y bydd rôl cyllid hinsawdd, y gallu i addasu, a gweithredu yn ganolog i drafodaethau rhwng y gwledydd.

Mae colled a difrod yn bwnc sy’n cyfeirio at ganlyniadau’r argyfwng hinsawdd, sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall pobol ei reoli ac addasu iddo, a phan nad oes gan y gymuned adnoddau i adfer y difrod.

Mae’r niwed yma yn cynnwys effeithiau yn sgil cynnydd yn lefelau’r môr, afonau’n sychu, neu seiclonau.

Ond i rai gwledydd, mae hyn yn sialens wrth i dechnoleg fel paneli solar, melinau gwynt a seilwaith cynaliadwy fod allan o gyrraedd llawer oherwydd y gost uchel.

Mae adroddiad newydd gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) wedi canfod y bydd angen mwy na $3bn y flwyddyn ar y byd erbyn 2030 i ddelio ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd, sy’n cynnwys sychder, moroedd yn codi, a stormydd difrifol.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?

Siaradodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn y gynhadledd ddydd Llun (Tachwedd 7), ar ôl ei dro pedol wrth fynychu COP27.

Dywedodd ei fod yn credu y gallai’r gynhadledd gyflawni’r addewidion, a chyhoeddodd fod y Deyrnas Unedig yn treblu eu cyllid i helpu cenhedloedd i addasu i effeithiau newid hinsawdd.

Ond ni allodd egluro sut yr oedd am gefnogi’r gwledydd datblygedig yma.

Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, “does dim amser i orffwys” wrth fynd i’r afael â’r argyfwng.

“Mae ynni adnewyddadwy o adref yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon ac yn creu swyddi gwyrdd, ond efallai y bydd hefyd yn helpu i ddiogelu’r bobol sy’n talu biliau rhag anghysondeb presennol yn y marchnadoedd nwy a thrydan, sy’n achosi i brisiau godi ar hyn o bryd,” meddai.

Mae Cymru’n bwriadu ac yn anelu at fod yn sero-net erbyn 2030, drwy newid sut yr ydym yn teithio, defnyddio ein tir, ein hadeiladau a’r economi.

Drwy osod strategaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y camau sydd eu hangen i gynnal dyfodol cynaliadwy i bobol Cymru.

“Ond er mai prin yw’r amser sydd gennym i weithredu, rydyn ni’n gwybod y gall newid go iawn ddigwydd pan fydd llywodraethau, sefydliadau, cymunedau ac unigolion yn cydweithio,” meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, fod yr angen i gydweithio yn hanfodol i sicrhau dyfodol.

“Yn COP27, a thros y degawd tyngedfennol hwn, mae’n hollbwysig ein bod yn troi ymrwymiadau hinsawdd ar gyfer Cymru yn gamau gweithredu i sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb i ddiogelu’r blaned nawr fel y gall pawb a phopeth ffynnu yn y dyfodol.”