Mae Liz Saville Roberts wedi dweud bod “hygrededd economaidd” wedi’i danseilio gan realiti Brexit.
Daeth ei sylwadau yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 9), wrth iddi gyhuddo Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, o raffu celwyddau am Brexit.
Daeth ei beirniadaeth yn wyneb ystyfnigrwydd Rishi Sunak wrth iddo wfftio’r posibilrwydd o ddychwelyd i’r farchnad sengl, ac ar ôl cyfweliad gyda Bloomberg yr wythnos ddiwethaf pan gododd Kemi Badenoch, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan, amheuaeth ynghylch rhagolygon yr OBR ar gyfer mis Mawrth y byddai masnach y Deyrnas Unedig 15% yn is yn y pen draw o ganlyniad i Brexit.
Cyn Datganiad yr Hydref yr wythnos nesaf, dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth Rishi Sunak ei fod yn “ffaith” fod “gobeithion economaidd gofidus [Prydain] wedi’u gwaethygu gan fod y tu allan i floc masnach mwya’r byd”.
Mi wnaeth hi feirniadu Rishi Sunak a Syr Keir Starmer am danseilio’u honiadau eu hunain o ran hygrededd economaidd drwy “raffu celwyddau am Brexit”.
‘A phwy mae e’n cytuno? Yr OBR ynteu ei weinidog Torïaidd?’
“Mae’r Prif Weinidog yn ei chael hi’n anodd ailadeiladu hygrededd economaidd y Torïaid sydd wedi’i ddifetha ar ôl i’w ragflaenydd wfftio’r OBR,” meddai Liz Saville Roberts.
“Ond mewn cyfweliad gyda Bloomberg yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ei Ysgrifennydd Masnach gwestiynu rhagolygon yr OBR y bydd masnach 15% yn is oherwydd Brexit.
“Mae gobeithion economaidd Prydain wedi’u gwaethygu gan fod y tu allan i’r bloc masnach mwyaf yn y byd. Mae hynny’n ffaith.
“Felly â phwy mae e’n cytuno? Yr OBR ynteu ei weinidog Torïaidd?”
Cytundebau masnach y dyfodol
Wrth ymateb, siaradodd Rishi Sunak am gytundebau masnach y dyfodol.
“Mae Rishi Sunak yn despret i brofi ei fod e’n wahanol i’w ragflaenydd economaidd ddiofal Liz Truss, ond eto mae e’n gwrthod cymryd camau pragmataidd i hybu’r economi drwy leihau rhwystrau masnach,” meddai Liz Saville Roberts.
“Fe allai fod wedi dangos bod y cyfnod o borthi eithafwyr yr ERG (Grŵp Ymchwil Ewrop) ar ben, ond dim ond atgyfnerthu ei fod e’r un mor gaeth i’r ERG â’i ragflaenydd wnaeth ei ateb.
“Mae Rishi Sunak a Keir Starmer, ill dau, yn rhan o raffu celwyddau am Brexit o ganlyniad i ddiffyg asgwrn cefn gwleidyddol.
“Er lles yr economi – yn enwedig i ni yma yng Nghymru – mae angen i wleidyddion Torïaidd a Llafur ddechrau bod yn onest a chydnabod yr angen i ailymuno â’r farchnad sengl.”