Bydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cynrychioli’r wlad yn uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon sy’n dechrau yng ngogledd-orllewin Lloegr heddiw (dydd Iau, Tachwedd 10).

Yn ystod yr uwchgynhadledd, fe fydd Rishi Sunak, Prif Weinidog cynta’r Deyrnas Unedig i fynychu’r uwchgynhadledd ers 2007, yn galw am fwy o gydweithio rhwng y gwledydd.

Bydd yn ymuno â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Iwerddon, y llywodraethau datganoledig ac ynysoedd Coron y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i Mark Drakeford gyfarfod â Rishi Sunak yn ystod y gynhadledd, a bydd Sunak hefyd yn cyfarfod â Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, a Micheál Martin, Taoiseach Iwerddon.

Daw hyn ar ôl i Sunak siarad â’r arweinwyr eraill dros y ffôn yn fuan ar ôl iddo gael ei ethol yn arweinydd y Ceidwadwyr ac felly’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Bydd Rishi Sunak a Mark Drakeford hefyd yn cyfarfod yn unigol ar gyrion yr uwchgynhadledd, a hynny er mwyn trafod Datganiad yr Hydref ac i bwysleisio’r angen am ragor o gydweithio hirdymor er lles yr economi, wrth i’r Canghellor Jeremy Hunt ymuno â nhw o bell.

Fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith, nod y Cyngor yw hybu perthnasau positif rhwng gwledydd ac ynysoedd y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i Michael Gove, Ysgrifennydd Codi’r Gwastad yn San Steffan, gynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.

“Mae presenoldeb y Prif Weinidog yng Nghyngor Prydain-Iwerddon yn arwydd o’n bwriad i gydweithio’n bositif â’n cydweithwyr Gwyddelig a’n cydweithwyr o’r llywodraethau datganoledig ac ynysoedd y Goron ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Fel Gweinidog Cydberthnasau Rhynglywodraethol, rwy’n edrych ymlaen at gadeirio’r Cyngor yr wythnos hon a chydweithio yn y misoedd i ddod wrth i ni wynebu nifer o heriau ar y cyd.”