Does “dim amser i’w golli” wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu unedau brys ysbyty mwyaf Cymru, yn ôl Plaid Cymru.

Daw hyn ar ôl i adroddiad gan arolygwyr nodi fod angen gwelliannau yn adran achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.

Fe wnaeth yr arolygwyr ddarganfod fod meddyginiaethau wedi dyddio, yn ogystal â sylweddau allai fod yn niweidiol.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod bod eu prif bryderon yn broblemau sy’n effeithio ar ysbytai ledled Cymru, gyda hynny’n cael effaith ar bobol sy’n cyrraedd unedau brys.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud eu bod nhw’n ceisio lleihau’r amseroedd aros ac yn wynebu heriau sylweddol oherwydd prinder staff.

Dywedodd aelodau o staff wrth arolygwyr nad ydyn nhw wastad yn gallu darparu gofal i’r safon maen nhw’n dymuno’i wneud, a hynny oherwydd y pwysau cynyddol a’r galw ar yr adran.

Cafodd Ysbyty’r Faenor ei agor yn gynnar yn ystod y pandemig, ac mae wedi bod yn ymrafael â heriau a chwynion ers iddo agor.

Yn gynharach eleni, galwodd cyfarwyddwr meddygol am ehangu’r safle, a hynny oherwydd bod y galw draean yn uwch na’r disgwyl.

‘Dim amser i’w golli’

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun tywyll o ysbyty sydd yng nghanol trafferthion,” meddai Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.

“Er gwaethaf ymdrechion gorau’r staff ymroddedig yn y Faenor, mae cleifion yn aros yn rhy hir mewn ystafell aros, mewn ysbyty sy’n rhy fach ac yn rhy anghyfforddus.

“Dim ond y llynedd y cafodd yr ysbyty blaenllaw hwn ei agor yn swyddogol, ac mae’n anodd credu bod diffygion sylfaenol o’r fath wedi dod i’r amlwg mor fuan.

“Yn ddiweddar, wnes i ddarganfod bod criwiau ambiwlans yn aros y tu allan i’r Grange am gyfartaledd o dros 2,000 o oriau bob wythnos. Mae hynny’n wastraff anhygoel o amser staff gwerthfawr, heb sôn am brofiad ofnadwy i gleifion sy’n cael eu gadael yn aros mewn ambiwlansys.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur gael gafael ar y tagfeydd sy’n achosi problemau mawr i gleifion a staff fel ei gilydd.

“Nes y byddan nhw’n gwneud hynny, bydd boddhad cleifion a morâl staff yn parhau’n is nag y dylen nhw fod.

“Mae yna frys hefyd i gael trefn ar hyn cyn y pwysau ychwanegol anochel sy’n dod bob gaeaf.

“Does dim amser i’w golli gan y Gweinidog Iechyd.”

David TC Davies yn galw am ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae David TC Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus.

“Dw i’n derbyn yn llawn fod pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ledled Cymru, ond mae’r broblem i’w gweld yn benodol yng Ngwent lle mae cwynion cleifion yn Ysbyty’r Faenor yn parhau i godi.

“Dwi’n cael fy nghyhuddo o danseilio doctoriaid, nyrsys a pharafeddygon bob tro dwi’n codi’r mater hwn, ond yn sicr nid nhw sydd ar fai.

“Rydyn ni’n cael ein gadael lawr gan y rheiny sy’n rheoli sy’n esgus bod y sefyllfa bresennol yn dderbyniol pan, yn amlwg, dydy hi ddim – fel y mae’r adroddiad yn ei ddangos.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn parhau i gefnogi gwelliant i adrannau brys drwy ystod o fesurau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn darparu £25m yn ychwanegol eleni i drawsnewid gwasanaethau gofal brys a gofal brys ar draws Cymru, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn derbyn £3m.

“Rydym hefyd wedi darparu £260,000 yn ychwanegol i’r bwrdd iechyd er mwyn gwella ei fannau aros mewn adrannau brys y gaeaf hwn.”