Mae dau o bobol wedi’u harestio wedi i graffiti hiliol y Natsïaid gael ei baentio dros furlun sy’n talu teyrnged i gymuned Garibïaidd Port Talbot.

Arestiodd Heddlu De Cymru ddau fachgen yn eu harddegau ar amheuaeth o ddifrod troseddol hiliol a difrod troseddol.

Cafodd y ddau fachgen, o Bort Talbot a Thonyrefail, eu cludo i orsaf heddlu Heol Queens, Pen-y-bont ar Ogwr i gael eu holi.

Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn cynnal cyrchoedd ar nifer o eiddo.

Ddiwedd mis Hydref, cafodd swastikas, yr ymadrodd “Parth Natsïaidd”, yn ogystal ag ymadrodd hiliol eu paentio dros y murlun, sy’n rhan o’r ‘Llwybr Celf Stryd,’ a gafodd ei greu gan y grŵp ARTWalk.

Cafodd y rhifau 1488 – cod gafodd ei ddefnyddio gan neo-Natsïaid – hefyd ei baentio ar y murlun.

‘Ffiaidd’

“Ni fydd ymddygiad atgas o’r math yma yn cael ei oddef,” meddai’r Uwch Arolygydd Stephen Jones.

“Rwyf am sicrhau’r gymuned leol fod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal gyda’r bwriad o sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dal yn gwbl atebol am eu gweithredoedd ffiaidd.”

Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth ynghylch y mater hwn, cysylltwch â Heddlu’r De ar-lein neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2200364396.

‘Ni fyddwn yn cael ein dychryn’

Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliodd aelodau o grŵp ARTWalk gyfarfod brys cyn mynd ati i adfer y murlun.

“Ni fyddwn ni yn ARTwalk Port Talbot yn cael ein dychryn gan bobol sy’n ceisio tanseilio’r gwaith da mae grwpiau, fel ni, wedi’i wneud wrth ddod â chymunedau lleol at ei gilydd,” meddai Derek Davies o’r grŵp ARTWalk.

“Bydd ARTwalk yn parhau i weithredu fel un gymuned beth bynnag fo’u lliw neu eu crefydd, i greu murluniau hardd sy’n dangos naws gariadus Port Talbot a’i thrigolion.”