Mae capel poblogaidd yng Nghaernarfon yn gobeithio dod â’r gymuned at ei gilydd am brydau am ddim a gweithgareddau.

Daw hyn yng nghanol yr argyfwng costau byw, ond nid dyna’r unig reswm y tu ôl yr ymgyrch.

Mae Maggie Hughes, arweinydd y prosiect gan Gapel Caersalem, yn pwysleisio nad cegin gawl yw Cawl a Chwmni, ond rhywle i bawb o bob oed ddod at ei gilydd – waeth beth yw eu crefydd – i fwyta, cymdeithasu ac efallai rhoi cynnig ar weithgaredd newydd.

Dechreuodd y prosiect cymunedol yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, Tachwedd 3).

Mae croeso i unrhyw un rhwng 11:00yb a 2:00yh bob dydd Iau.

Prosiect cymunedol, nid cegin gawl

Mae’r criw o wirfoddolwyr yn awyddus i bwysleisio nad cegin gawl yw’r prosiect.

Mae croeso i unrhyw un sy’n mynychu Cawl a Chwmni helpu’r criw o wirfoddolwyr i baratoi’r cawl, meddwl am ryseitiau, gwneud paneidiau a helpu gyda’r glanhau.

“Rydyn ni eisiau i bawb wneud o gyda’i gilydd fel cymuned,” meddai Maggie Hughes wrth golwg360.

“Dydyn ni ddim eisiau iddo fod yn rywbeth rydyn ni’n gwneud ar ben ein hunain.

“Efallai gall o ddysgu pobol pa mor hawdd ydy o i wneud bwyd iachus hefyd os oes ganddyn nhw’r adnoddau.

“Mae lot o bobol yn stryglo efo prisiau bwyd, unigrwydd a gwres.

“Felly mae e jest yn neis i gael paned a sgwrs a gwneud rhywbeth gydag ein gilydd.

“Gobeithio bydd e’n helpu’r sefyllfa ychydig.”

Dysgu trwy weithgareddau

Yn wahanol i gegin cawl, nid dim ond bwydo’r bobol sy’n mynychu sy’n bwysig, ond cymdeithasu a dysgu rhywbeth newydd.

“Gall e fod yn gemau, jig-so neu rywun os oes rhywun yn crosio, gallen nhw ddysgu pobol eraill,” meddai Maggie Hughes wedyn.

“Rydyn ni’n gobeithio datblygu fel bod pobol yn gallu dysgu rhywbeth newydd neu fod rhywbeth i wneud yn hytrach na jest bwyta.”