Mae strydoedd y Cofis yn cael eu tacluso a’u glanhau fel rhan o brosiect Hwb Caernarfon.

Mae Calvin Thomas, Chris Watts ac Elin Jones yn glanhau Stryd Llyn, a hynny ar gais Hwb Caernarfon.

Mae’r tri yn aelodau o Dîm Tacluso Caernarfon, ac ymhen amser fe fyddan nhw’n glanhau’r dref gyfan.

Dywed David Charles Williams, Swyddog Prosiect Tîm Tacluso ‘Ardal Ni’, fod y timau wedi’u sefydlu ers mis Medi, gyda dau dîm yr un yn Arfon a Meirionnydd, ac un yn Nwyfor.

Glanhawyr strydoedd Hwb Caernarfon

Gweledigaeth

“Ein gweledigaeth ydi i fagu balchder bro a gwella glendid a thaclusrwydd ein trefi a phentrefi i’r dyfodol, fel bod pobol Gwynedd yn falch o fyw yma,” meddai David Charles Williams wrth golwg360.

“A rhoi pobol Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.”

Y math o waith maen nhw’n ei wneud yw “ymdrin â chwyn trefol a gordyfiant; glanhau arwyddion ffyrdd ac enwau strydoedd; glanhau, trwsio a phaentio dodrefn stryd fel meinciau, bolardiau ac ati; golchi, trwsio a gosod biniau stryd a chael gwared ar faw ci; glanhau graffiti, sticeri neu bosteri o eiddo’r Cyngor; a glanhau dwfn, sef golchi strydoedd, tynnu gwm cnoi ac ati”.

Glanhawyr strydoedd Hwb Caernarfon

“Enghreifftiau yn unig yw’r rhain o’r math o fân weithiau cynnal mae’r timau’n ei wneud,” meddai.

“Os dymunwch i’r timau ymweld â’ch bro chi yna dylid cysylltu gyda’r Cynghorydd lleol.

“Mae’r timau’n ymweld â phob ward Cyngor yn eu tro.”