Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd dros £7m yn cael ei fuddsoddi mewn 11 o brosiectau addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

Bydd y prosiectau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 11) yn ceisio dod â chyfleoedd i fwy o ddisgyblion, o’r blynyddoedd cynnar i ysgolion uwchradd, er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Cefnogi cymunedau

Bydd Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi ar Ynys Môn yn cael arian ar gyfer uned gofal plant newydd.

Bydd lle ar gyfer 50 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr uned newydd, er mwyn meithrin cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg.

Gall rhai prosiectau hefyd gefnogi cymunedau lleol i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen wedi sicrhau cyllid ar gyfer cae 3G dan lifoleuadau sy’n addas ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau i’w cynnal yn ystod oriau’r diwrnod ysgol.

A bydd y cae hefyd ar gael i’r gymuned leol gyda’r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol, er mwyn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.

Y genhedlaeth nesaf ‘wrth wraidd’ y cynlluniau

“Rwy’n falch o weld y cynlluniau ar gyfer prosiectau newydd a fydd yn cefnogi plant a phobol ifanc o bob oedran ledled Cymru,” meddai Jeremy Miles.

“Os ydyn ni’n mynd i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hollbwysig ein bod ni’n rhoi’r genhedlaeth nesaf wrth wraidd ein cynlluniau.

“Mae fy neges i’n glir, rwy am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy’ am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”