Mae arweinwyr a phleidiau gwleidyddol wedi bod yn talu teyrnged i’r rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.

Am 11 o’r gloch heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 11), bydd pobol ledled Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn nodi’r diwrnod gyda dwy funud o dawelwch.

Mae Tachwedd 11 bob blwyddyn yn gyfle i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918.

Bydd gwasanaethau coffa’n cael eu cynnal ar draws y wlad.

‘Bythol ddiolchgar’

“Heddiw ac ar ddydd Sul, talwn deyrnged i bawb wnaeth yr aberth eithaf i warchod ein gwlad yn ystod ei horiau duaf,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae eu haberth wedi ein galluogi ni i fyw mewn cymdeithas sy’n seiliedig ar ryddid.

“Heddiw, meddyliwn nid yn unig am y bywydau gafodd eu colli, ond hefyd am ddymuniad goroeswyr y ddau ryfel byd y dylem ymdrechu i adeiladu byd sy’n rhydd rhag rhyfel a thrais.

“Eleni, wrth i ni gofio’r rheiny frwydrodd dros ryddid yn ystod gwrthdaro blaenorol, bydd nifer ohonom hefyd yn meddwl am ddynion a menywod dewr Wcráin, sydd yr eiliad hon yn sefyll yn wyneb gorthrwm gyda’r gaeaf ar y gorwel.

“Rydym yn parhau’n fythol ddiolchgar i’r rheiny safodd i warchod ein gwlad.

“Ni a’u cofiwn.”

‘Rhan hanfodol o’n cymdeithas’

“Heddiw a dydd Sul, bydd pobol ledled ein gwlad yn ymgynnull i dalu teyrnged i bawb wasanaethodd, i bawb frwydrodd, i bawb wirfoddolodd, ac i bawb fu farw i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i fwynhau rhyddid rhag gorthrwm a gormes,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Er gwaetha’r holl drasiedi sydd ynghlwm wrth ryfeloedd y gorffennol, rwy’n falch fod y Cofio yn parhau i chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymdeithas.

“Wedi’r cyfan, mae heddiw’n nodi’r cadoediad ddaeth â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben, ond yma rydym yn cofio gwaddol y rheiny fu farw dros eu Brenin a’u gwlad.

“Nid yn unig rydym yn defnyddio’r amser hwn i ystyried aberth pawb frwydrodd, ond hefyd y rheiny sy’n parhau i wneud, yn enwedig pan welwn gost bygythiadau Rwsia yn Wcráin bob dydd.

“Y tu hwnt iddyn nhw, rydym hefyd yn nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud ar eu rhan, gan elusennau megis y Llengfilwyr Prydeinig Brenhinol a Help for Heroes.

“Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi brwydro dros ein gwlad a thros ein rhyddid.

“Ni a’u cofiwn.”