Mae Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd a llefarydd cyfiawnder y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli’r system gyfiawnder troseddol i Gymru.

Dywed yr Aelod dros Ogledd Cymru fod bod yn rhan o system gyfiawnder Cymru a Lloegr “yn gwneud Cymru’n fwy deniadol i wneud busnes”.

Daeth ei sylwadau yn ystod sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Senedd Cymru ddydd Mercher (Tachwedd 11).

Fe wnaeth e ddyfynnu’r Arglwydd Wolfson, cyn-Weinidog Cyfiawnder y Deyrnas Unedig, yn ystod cynhadledd yn 2021 pan ddywedodd fod “bod yn rhan o system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes”.

Mae’n mynnu bod “cydweithio agos” yn digwydd er mwyn sicrhau cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys cydweithio ar gefnogi menywod a phobol ifanc, ac wrth gyflwyno rhai o argymhellion Comisiwn Thomas.

“Pa gynnydd sydd wedi’i wneud, felly, yn ystod y 13 mis ers hynny – rwy’n gwerthfawrogi y gallai fod yn demtasiwn i chi ateb drwy wneud sylw ar y misoedd diwethaf yn unig – wrth i ni symud yn ein blaenau?”

Dywedodd fod holl waith cynllunio’r uned yn y gogledd sy’n ymdrin â thorcyfraith wedi’i drefnu yn digwydd ar y cyd rhwng yr uned yng ngogledd-orllewin Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, fod 95% neu fwy o droseddau yn y gogledd yn digwydd yn lleol neu’n drawsffiniol, nad oes gan Heddlu’r Gogledd unrhyw waith sylweddol ar y gweill ar lefel Cymru gyfan, a bod tystiolaeth i Gomisiwn Thomas wedi’i anwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y Comisiwn.

Dywedodd fod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn nes at Lywodraeth Cymru o ran dulliau cyfiawnder na fel arall”, a’u bod nhw ill dau yn ffafrio “polisi’n seiliedig ar atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adferiad”.

Ychwanegodd fod gostyngiadau yn nifer y plismyn bellach wedi cael eu gwyrdroi, a’u bod nhw “ar y trywydd iawn” i gyflwyno 20,000 yn rhagor o blismyn o fewn y targed o dair blynedd.

“Wrth ymateb i chi ym mis Mai, nodais er enghraifft fod gan Gymru’r gyfran uchaf o blant yn y Deyrnas Unedig sydd mewn gofal, ac un o’r cyfraddau uchaf o blant sy’n derbyn gofal gan unrhyw wladwriaeth yn y byd, gan ofyn, ‘A yw hi felly ddim yn wir fod y fath wahaniaeth wrth weithredu o fewn yr hyn sy’n system gyfiawnder troseddol ar y cyd yn dangos pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli’r system gyfiawnder?”

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, nad ei rôl e yw ateb ar ran Comisiwn Thomas nac i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud yn benodol â’r Comisiwn.

Ond dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n awyddus i gael “partneriaeth go iawn yn nhermau’r meysydd hynny sydd wedi’u datganoli ac sy’n amlwg yn ymwneud â phlismona” ac unrhyw feysydd cysylltiedig eraill.

Wfftiodd e’r awgrym mai ers misoedd yn unig mae gwaith wedi cael ei wneud ym maes plismona, gan egluro bod yna “gamweithrediad go iawn” o ran materion cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr ac “nad yw’n gweithio’n iawn”.

Eglurodd fod yna “Weinyddiaeth Gyfiawnder ganolog iawn lle mae Cymru ond yn chwarae rhan ar y cyrion”.

“Pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym [yn San Steffan] yn 2010, fe wnaethoch chi dorri 22,000 o blismyn ac rydych chi bellach yn sôn am benodi 15,000 – gan gywiro, i ryw raddau, y difrod dinistriol hwnnw gafodd ei wneud mewn gwirionedd i blismona a diogelwch cymunedol,” meddai Mick Antoniw wedyn.

“Felly rydym yn gweithio fel partneriaeth, rydym yn gweithio ar draws y cyfan, rydym yn ceisio pa bynnag gyfleoedd sydd ar gael i gydweithio ac mae yna nifer o lasbrintiau a phrosiectau sydd ar y gweill.

“Ond maen nhw ar wyneb yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd.

“Mae angen ystyriaeth lawer dyfnach i gyfiawnder a dw i ddim yn derbyn eich safbwynt, a dw i ddim yn meddwl y gall unrhyw ddadansoddiad rhesymegol ar sail tystiolaeth o awdurdodaeth Cymru a Lloegr ddweud ei fod yn gwneud lles i Gymru.

“Dyna farn Comisiwn Thomas hefyd, ond dw i’n credu y cafodd ei gyfiawnhau mewn tystiolaeth arwyddocaol arall ers hynny.”

Ychwanegodd fod Mark Isherwood “wedi cyflwyno achos da iawn dros ddatganoli cyfiawnder” a bod angen “datganoli cyfrifoldebau go iawn, cyson ac wedi’i drefnu” er mwyn cael gwared ar yr “ymylon miniog” sydd yn y system bresennol.

“Fe wnaethoch chi gyfeirio eto at y ffigwr plismona ac ati.

“Wel, rydych chi wedi bod mewn grym [yn San Steffan] ers 2010; fe gymerodd 12 mlynedd i chi ddechrau trwsio’r difrod hwnnw sydd wedi cael ei wneud yn nhermau’r toriadau enfawr i blismona ddigwyddodd mewn gwirionedd.”