Mae Pere Aragonès, arlywydd Catlwnia, wedi croesawu’r newid yn y gyfraith yn Sbaen sy’n dileu’r drosedd o ‘annog gwrthryfel’, ac sy’n cyflwyno trosedd newydd sef ‘annhrefn cyhoeddus bygythiol’ – trosedd sy’n llai difrifol.

Cafodd y newid ei gyhoeddi gan Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, ddoe (dydd Iau, Tachwedd 11).

Dywed Aragonès fod y newid yn y gyfraith yn “ei gwneud hi’n fwy anodd erlyn y mudiad annibyniaeth yn annheg”, a bod y newid o ganlyniad i “ddyfalbarhad” yn y trafodaethau â Sbaen sy’n parhau ers yr ymgais i sicrhau refferendwm annibyniaeth yn 2017.

Yn y cyfarfod diwethaf rhwng Sbaen a Chatalwnia, daeth cytundeb i geisio canfod ateb gwleidyddol i’r anghydfod tros annibyniaeth, ac i beidio â throi at y llysoedd.

Yn dilyn y datblygiad diweddaraf, mae disgwyl i Aragonès ofyn am amnest ar gyfer unrhyw achosion cyfredol sydd ar y gweill ac sy’n deillio o’r ymgyrch tros annibyniaeth, ac mae’n dweud y bydd e’n parhau i dynnu sylw at y mater ar draws y byd.

Y drosedd newydd

Pum mlynedd o garchar fydd y ddedfryd fwyaf difrifol ar gyfer y drosedd newydd, yn ôl Pere Aragonès.

Cafwyd arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth yn euog o annog gwrthryfel ond yn ddieuog o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Mae’r rhai gafwyd yn euog bryd hynny bellach wedi derbyn pardwn ac wedi cael gadael y ddalfa, ond gellid gwyrdroi eu pardwn o hyd ac maen nhw hefyd wedi’u gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am ddegawd.

Gallai’r cod troseddol gael effaith ar arweinwyr alltud hefyd, a’r awgrym o hyd yw fod Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, yn un fyddai’n dal i wynebu achos troseddol pe bai’n dychwelyd i’r wlad ar ôl cyfnod hir yn alltud.

Mae Puigdemont wedi’i amau o annog gwrthryfel, ond hefyd o gamddefnyddio arian cyhoeddus, ac fe allai gael ei garcharu.

Mae’r drosedd newydd hefyd yn golygu gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus am hyd at wyth mlynedd.