Fydd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, ddim yn sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Bu’n cynrychioli Caernarfon rhwng 2001 a 2010, ac yna Arfon ers 2010, yn San Steffan.

Wrth annerch aelodau lleol y Blaid mewn cyfarfod neithiwr (nos Iau, Tachwedd 10), dywedodd y bu’n “anrhydedd ac yn fraint” gwasanaethu pobol Arfon, a chyn hynny, etholaeth Caernarfon yn ystod ei gyfnod o dros ddau ddegawd yn Aelod Seneddol.

Cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2001, gan olynu Dafydd Wigley, ac fe ddaliodd ei afael ar y sedd yn 2005, gan ennill sedd newydd Arfon yn 2010 wedi i’r ffiniau etholaethol gael eu newid.

Fe gadwodd e’r sedd yn enw Plaid Cymru chwe gwaith ers hynny.

Mae’n uchel ei barch yn sgil ei waith yn ymgyrchu tros hawliau pobol ag anableddau a phobol fregus, ac fe fu’n llefarydd ar ran y blaid ar waith a phensiynau ers 2001.

Pleidleisiodd yn erbyn rhyfel Irac yn 2003, ac roedd yn ffigwr blaenllaw mewn ymgais i uchelgyhuddo’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair am gamarwain y Senedd ar yr achos cyfreithiol dros ryfel.

Mae wedi bod yn gefnogwr brŵd i achos y Cwrdiaid, a bu hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Aml Bleidiol ar Gatalwnia.

Roedd yn amlwg fel aelod gweithgar o’r Pwyllgor Dethol ar Brexit.

Bu hefyd yn Gadeirydd Panel Ymgynghorol y Llefarydd ar Weithiau Celf y Ty, ac yn aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd am ddeng mlynedd.

‘Braint ryfeddol’

“Ar ôl cryn feddwl a thrafod gyda fy nheulu, rwyf wedi penderfynu peidio cynnig fy hun fel ymgeisydd i sefyll eto ar ran Plaid Cymru i fod yn Aelod Seneddol dros etholaeth Arfon,” meddai Hywel Williams.

“Bu gwasanaethu fel Aelod Seneddol Caernarfon o 2001 ymlaen, gan ddilyn ôl troed Dafydd Wigley, un o gewri gwleidyddol Cymru, ac yna sefyll ac ennill sedd newydd Arfon yn 2010 yn fraint ryfeddol.

“Roedd yn anrhydedd arbennig cael cynrychioli fy mro fy hun ym Mhwllheli a Rhoslan hyd nes newid y ffiniau yn 2010.

“Rwy’n hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gefais o’r cychwyn cyntaf gan gyfeillion a chymdogion ac aelodau’r Blaid yn Nwyfor.

“Bu sefyll yn Arfon wedyn, i ddod yn ail yn ôl y gwybodusion gwleidyddol, yn sialens enfawr, a hynny mewn cymunedau ble na fu Aelod Seneddol y Blaid erioed o’r blaen.

“Ond bellach mae gan bobol Arfon Aelod Seneddol ac Aelod o’n Senedd dros Blaid Cymru, ynghyd â chriw mawr talentog ac ymroddedig o gynghorwyr sir a chymuned.

“Carwn ddiolch yn arbennig i’m teulu am eu cefnogaeth a’u hamynedd dros 21 mlynedd.

“Mae fy nyled yn fawr iawn i fy staff seneddol ymroddedig yng Nghaernarfon a Llundain, ynghyd â staff y Blaid yng Nghaernafon a Chaerdydd.

“Diolch hefyd i fy nghyd Aelodau Seneddol a’r tri a fu’n Aelodau o’r Cynulliad ac yna’r Senedd yn ystod fy nghyfnod, Dafydd Wigley, Alun Ffred Jones a Sian Gwenllian.

“Yn olaf, rwy’n diolch yn ddiffuant i bobol Dwyfor ac Arfon am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd ac yn gobeithio fy mod wedi talu yn ôl yn llawn am eu ffydd ynof.”

‘Ymgyrchydd diysgog’

Mae nifer o wleidyddion a ffigurau amlycaf Plaid Cymru wedi bod yn talu teyrnged i Hywel Williams yn dilyn ei gyhoeddiad.

“Mae Hywel wedi gweithio’n ddiflino dros ei etholwyr a’r Blaid ers iddo gael ei ethol gyntaf yn 2001 ac mae’n ymgyrchydd diysgog dros gyfiawnder cymdeithasol,” meddai Elin Walker-Jones, cadeirydd Plaid Cymru Arfon.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Hywel ar nifer o faterion lleol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Nid tasg hawdd yw sefydlu enw da i chi’ch hun yn San Steffan, ond mae Hywel yn sicr wedi llwyddo, gan ennyn parch eang ar draws y rhaniad gwleidyddol a bydd yn gadael gwaddol y gall y blaid a phobl Cymru fod yn falch ohoni.

“Ar ran y blaid yn Arfon, estynnaf fy niolch diffuant i Hywel am ei wasanaeth cadarn i bobol Arfon a dymuno’r gorau iddo ar ei ymddeoliad.”

Cafodd y sylwadau hynny eu hategu gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

“Trwy gydol ei amser yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Hywel Williams wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros gyfiawnder cymdeithasol, gan roi llais i bobol fregus ac anabl, ac arwain y frwydr yn erbyn polisïau lles creulon San Steffan,” meddai.

“Mae ei wybodaeth helaeth am faterion lles a’i gefndir mewn gwaith cymdeithasol wedi ei wneud yn gynghreiriad aruthrol yn yr ymgyrch yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb.

“Mae wedi bod yn Aelod Seneddol etholaeth cydwybodol ac mae’n uchel ei barch ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

“Bydd grŵp Plaid Cymru San Steffan yn colli ei brofiad a’i ddoethineb – ond gwn y bydd ei gyfraniad gwerthfawr i’r Blaid yn parhau. Dymunaf y gorau iddo i’r dyfodol.”

‘Anrhydedd a phleser’

“O’m cyfnod fel cynghorydd sir, fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Cymru ac fel Aelod o’r Senedd, mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser gweithio gyda Hywel, gan hyrwyddo’r ardal ac ymgyrchu ar faterion allweddol rhag bygythiadau megis peilonau ar draws Y Fenai a bygythiadau difrifol i wasanaethau iechyd lleol,” meddai Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli’r etholaeth yn y Senedd.

“Mae Hywel wedi helpu i wneud Plaid Cymru yn rym pwerus dros gyfiawnder cymdeithasol yn San Steffan ac wedi bod yn gyson ymhlith lleisiau mwyaf blaengar a radical y Senedd.

“Mae Hywel wedi bod yn ffyrnig ac yn egwyddorol wrth ddwyn y Torïaid i gyfrif am y 12 mlynedd diwethaf, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i fersiwn anaemig a dihysbydd o wrthblaid gan y Blaid Lafur.

“Mae Hywel wedi bod yn llais lleol tosturiol a di-ofn dros yr ardal hon ers dechrau’r mileniwm.

“Rŵan mae’n haeddu sefyll i lawr i dreulio amser o ansawdd gyda’i deulu, ond byddaf yn gweld eisiau ei ddoethineb a’i gyfeillgarwch.

“Diolch o galon am bob dim Hywel.”

‘Rhan enfawr yng ngwleidyddiaeth genedlaethol Cymru a Gwynedd’

“Mae Hywel Williams wedi chwarae rhan enfawr yng ngwleidyddiaeth genedlaethol Cymru a gwleidyddiaeth Gwynedd fel ei gilydd, ac mae llawer ohonom – ym Mhlaid Cymru a thu hwnt – yn ei ddyled,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Gellir cyfeirio at ei waith gyda’r iaith Gymraeg, ein hawliau ni fel dinasyddion yn wyneb bygythiadau Brexit, a hawliau’r Catalaniaid i annibyniaeth.

“Mae Hywel wedi dod ag ymagwedd meddylgar o ddyngarwch heddychlon i’w holl waith, a byddwn ni’n gweld eisiau ei ddoethineb, ei amynedd a’i hynawsedd.

“Rwyf yn bersonol ddiolchgar iddo am ei annogaeth gyson i ferched fentro i wleidyddiaeth.”

‘Blynyddoedd o deyrngarwch’

“Ar ran Plaid Cymru, rwyf am dalu teyrnged i flynyddoedd o deyrngarwch Hywel i’r Blaid ac ei ymgyrchu diflino ar ran pobol Arfon,” meddai Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru.

“Mae Hywel yn enghraifft o wleidydd o’r radd flaenaf, yn wir gynrychiolydd y bobol sydd wedi hyrwyddo achosion da drwy roi llais i’r di-lais.

“Rwy’n gwybod y bydd Hywel yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i’r Blaid a y bydd ei etholwyr yn parhau i gael Aelod Seneddol gweithgar hyd at yr etholiad nesaf.”